Profiad Gwaith

 

Darganfyddwch Gyfleoedd Lleoliadau gyda Chyngor Sir Gâr

Cymerwch y cam cyntaf tuag at eich gyrfa drwy archwilio'r amrywiaeth eang o leoliadau sydd ar gael o fewn Cyngor Sir Gâr. O ddysgu am wahanol ddiwydiannau a deall rolau swyddi go iawn, i ddarganfod beth sy’n eich ysbrydoli fwyaf, bydd y cyfleoedd hyn yn eich helpu i dyfu.

Mae lleoliadau gwaith gyda’r Cyngor yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu sgiliau gwerthfawr, ennill profiad ymarferol, a meithrin cysylltiadau a allai siapio eich taith yrfa.

Gwnewch wahaniaeth. Dechreuwch Eich Gyrfa gyda Chyngor Sir Gâr!

Ydych chi’n chwilio am brofiad gwaith ystyrlon neu’r cam cyntaf i yrfa werth chweil? Cyngor Sir Gâr yw un o'r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru — mae hefyd yn gyflogwr mwyaf y sir, gyda dros 8,300 o staff yn darparu gwasanaethau hanfodol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

O addysg a gofal cymdeithasol i briffyrdd, casglu gwastraff, hamdden, a mwy, rydym yn cynnig amrywiaeth enfawr o rolau lle gallwch ddysgu, tyfu, a chyfrannu at eich cymuned.

Byddwn yn eich helpu i godi hyder a datblygu sgiliau newydd. Rydym yn dathlu unigoliaeth, yn annog syniadau ffres, ac wrth ein bodd yn cydnabod gwaith rhagorol. Felly, p'un ai ydych yn fyfyriwr sy’n gyffrous i ennill profiad ymarferol; newydd ddechrau ac yn archwilio posibiliadau gyrfa; rhiant sydd angen hyblygrwydd, neu’n syml rhywun sydd eisiau gwneud gwahaniaeth, mae lle i chi yma.

Ymunwch â Chyngor Sir Gâr a byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy’n siapio dyfodol disglair i’n cymunedau. Mae eich taith yn dechrau yma.

 

 

Categorïau Lleoliad

 

Busnes a Gwasanaethau Cyhoeddus

Technoleg a Digidol

Creadigol a’r Cyfryngau

Gofal a’r Gymuned

Amgylchedd a’r Awyr Agored

Llyfrgelloedd a Gwasanaeth Cwsmeriaid

Tysteb

Mae gen i ddiddordeb mewn chwaraeon a ffitrwydd ac roeddwn i eisiau mynd i'r ganolfan hamdden am fwy o ddealltwriaeth a datblygu sgiliau, a fyddai'n fy helpu ar gyfer y dyfodol. Ers bod ar leoliad, mae fy hyder yn bendant wedi gwella ynghyd â fy sgiliau cyfathrebu, ac rwy’n gallu cyfathrebu â chwsmeriaid yn Gymraeg a Saesneg.

Rwy’n mwynhau’n fawr yn y ganolfan ac mae’r staff yn gefnogol iawn, yn fy annog ac yn fy ysgogi i ddysgu pethau newydd. Mae fy amser yn y ganolfan hamdden wedi bod yn gadarnhaol iawn a thrwy wneud hyn rwy'n gwybod yn bendant fy mod eisiau gweithio ym myd chwaraeon a hamdden yn y dyfodol.

Fy nhip pennaf i unrhyw un sydd eisiau gweithio yn y diwydiant hamdden fyddai rhoi cynnig arni a cheisio am brofiad gwaith neu gyfle gwirfoddoli, ni fyddwch yn gwybod os na fyddwch yn rhoi cynnig arni.

Harri James, Canolfan Hamdden castell Newydd Emlyn

Hwb