Canllawiau asbestos
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/05/2025
Mwyn naturiol sy'n cynnwys ffibrau bach yw asbestos, sydd wedi cael ei ddefnyddio yn y gorffennol i wneud llawer o ddeunyddiau adeiladu a nwyddau.
Mae asbestos dal yn gyffredin mewn llawer o gartrefi ond nid yw'n cael ei ddefnyddio erbyn hyn wrth adeiladu a gweithgynhyrchu, a hefyd mae canllawiau llym i sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n ddiogel.
Oes asbestos yn fy nghartref i?
- Mae asbestos mewn llawer o gartrefi ac adeiladau, ac mae'n gwbl ddiogel os yw'n cael ei adael yn llonydd ac mewn cyflwr da.
- Mae pob cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin wedi cael arolwg asbestos. Rydyn ni'n cadw cofnod o unrhyw asbestos a byddwn ni'n dweud ble mae e wrth unrhyw un sy'n gwneud gwaith ar eich cartref.
- Mae asbestos yn hollol ddiogel os nad yw'n cael ei symud ac os nad yw gwelliannau yn y cartref yn tarfu arno.
Os ydych chi'n poeni am asbestos yn eich cartref neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, cysylltwch â'ch Swyddog Tai.