Eich apwyntiad atgyweirio

Os yw eich apwyntiad ar gyfer atgyweiriad cyffredinol, byddwch yn derbyn apwyntiad yn awtomatig trwy neges destun neu e-bost os oes gyda ni eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost.

Mae'r apwyntiadau rhwng dydd Llun a dydd Gwener 8.30am-5pm. Byddwn yn darparu amserlen apwyntiadau bore, prynhawn neu drwy'r dydd.

Os nad yw'r atgyweiriad yn un brys ac os oes angen i chi aildrefnu'r apwyntiad, gallwch ddewis gwneud hyn drwy eich neges destun/e-bost am yr apwyntiad. 
Hefyd bydd neges atgoffa yn cael ei hanfon atoch y noson cyn eich apwyntiad.

Os byddwch yn colli'ch apwyntiad, byddwn ni'n ceisio galw unwaith eto. Os byddwch yn colli'r apwyntiad yr ail waith, bydd yn cael ei ganslo a bydd angen i chi aildrefnu eich apwyntiad os oes angen.

Nid yw bob amser yn bosibl cwblhau atgyweiriad ar yr ymweliad cyntaf. Ar gyfer swyddi mwy cymhleth, er enghraifft pan fydd angen mesur ac archebu deunyddiau, efallai fydd angen i ni wneud atgyweiriad dros dro cyn gwneud gwaith pellach. 

Nid ydym yn darparu apwyntiadau ar gyfer:

Argyfyngau – Os ydych chi'n rhoi gwybod am atgyweiriad brys, yna mae'n bwysig eich bod yn aros i mewn hyd nes ein bod yn dod. 
Atgyweiriadau y mae angen cynllunio neu waith arolygu pellach ar eu cyfer. Ni fyddwn yn darparu apwyntiad nes bod y gwaith hwn wedi'i drefnu/gwneud.

Yn ystod atgyweiriadau brys, byddwn yn gwneud unrhyw sefyllfaoedd peryglus yn ddiogel ar unwaith. Bydd unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol pellach i ddatrys y broblem yn barhaol yn cael eu trefnu ar gyfer oriau gwaith arferol.

Gwnewch yn siŵr bod y manylion cyswllt sydd gyda ni ar eich cyfer wedi'u diweddaru.