Datblygiad o 12 cartref i'w rhentu'n gymdeithasol ym mhentref arfordirol Llansteffan, ger Caerfyrddin, yw Maesgriffith.
Bydd y cartrefi newydd yn ddatblygiad a groesawir yn Llansteffan, ac yn darparu cartrefi fforddiadwy y ceir angen mawr amdanynt yn yr ardal i deuluoedd lleol.
Mae'r 12 cartref i'w rhentu'n gymdeithasol yn cynnwys:
6x chartref 3 ystafell wely a 6x chartref 2 ystafell wely.
Mae'r cartrefi ynni-effeithlon hyn yn cynnwys ardaloedd byw modern, cegin ac ystafell ymolchi fodern a mannau parcio oddi ar y ffordd.
Mae Maesgriffith 7 milltir o Dre Ioan, 8 milltir o ganol tref Caerfyrddin ac ond 6 munud o bellter cerdded oddi wrth draeth hyfryd Llansteffan.
Yn Nhre Ioan gerllaw ceir Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Canolfan Hamdden Caerfyrddin a chlybiau chwaraeon lleol. Ceir llu o lwybrau arfordirol yn Llansteffan, a gallwch hefyd ymweld â'r castell trawiadol.
Mae canol tref Caerfyrddin yn cynnig digonedd o gyfleoedd i siopa ac amrywiaeth eang o gaffis, bwytai a bariau. Mae rhywbeth yn digwydd drwy’r amser.
Mae'r farchnad dan do yng Nghaerfyrddin yn cynnwys amrywiaeth o stondinau annibynnol. Fe'i sefydlwyd dros 800 mlynedd yn ôl, ac mae'n dyddio'n ôl i oes y Rhufeiniaid. Mae'n gwerthu popeth, o gelf a chrefft i fwyd a diod lleol, gan gynnig detholiad o'r cynnyrch lleol gorau yng Nghymru. Ceir hefyd farchnad agored ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn, ac mae'r farchnad ffermwyr yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener cyntaf bob mis.
Mae'r A40, sy'n mynd tua'r gorllewin i Sanclêr, a'r A48, sy'n mynd tuag at Cross Hands ac i'r dwyrain at yr M4, yn golygu ei bod hi'n rhwydd teithio ar draws de Cymru o Faesgriffith. Ceir cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd i deithio ar draws y sir.
Dylai'r cartrefi fod wedi'u cwblhau ac ar gael i'w gosod yn nhymor yr hydref 2025.