Datblygiad o 16 o gartrefi rhent cymdeithasol newydd yn nhref arfordirol Cydweli yw Parc Pendre.
Bydd y cartrefi newydd yn darparu tai fforddiadwy ychwanegol y ceir angen mawr amdanynt i bobl a theuluoedd lleol yn yr ardal. Bydd y datblygiad yn cynnwys:
- 4 x cartref 1 ystafell wely
- 6 x chartref 2 ystafell wely
- 4 x cartref 3 ystafell wely
- 2 x gartref 4 ystafell wely
Mae'r cartrefi ynni-effeithlon hyn yn cynnwys ardaloedd byw modern, cegin ac ystafell ymolchi fodern a mannau parcio oddi ar y ffordd.
Mae tref Cydweli, 7 milltir oddi wrth Lanelli, yn cynnig popeth sydd ei angen er mwyn byw bob dydd, gan gynnwys siopau a chaffis lleol. Mae Cydweli yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr, gyda Chastell Cydweli, traeth Cydweli a Chei Cydweli ymhlith y prif atyniadau. Mae Cwrs Rasio Ffos Las wedi dod â rasio o'r radd flaenaf i Gymru ers iddo agor yn 2009, a hefyd yn lleoliad i fwyta a chynnal digwyddiadau, gan gynnwys priodasau.
Dim ond 15 munud mewn car o Barc Pendre, gallwch fwynhau diwrnod allan ym Mharc Gwledig Pen-bre. Mae'r parc a'r traeth arobryn oddi mewn i 500 erw o goetiroedd sydd wedi ennill y Faner Werdd, ochr yn ochr ag wyth milltir o dywod euraidd sydd wedi ennill y Faner Las. Mae'r parc gwledig ymhlith atyniadau gorau Cymru i ymwelwyr, gan gynnig cyfuniad unigryw o arfordir a chefn gwlad.
Mae'r A484 yn cynnig mynediad cyfleus i dref Caerfyrddin i'r Gogledd ac i Borth Tywyn a Llanelli tua'r De. Ceir hefyd gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn teithio ar draws y sir, gyda gorsaf drenau a gorsaf fysiau leol o fewn pellter cerdded.
Wnaith y gwaith adeiladu dechrau ym mis Chwefror 2025 ac fydd yn cael ei gwblhau ar ddechrau 2026.