Mae Stryd y Farchnad yn gynllun i ailddatblygu adeilad masnachol presennol er mwyn creu 10 fflat newydd ar rent cymdeithasol yng nghanol tref Llanelli.
Bydd y cartrefi newydd yn darparu tai fforddiadwy ychwanegol y ceir angen mawr amdanynt yng nghanol y dref. Bydd y datblygiad yn cynnwys:
10 fflat 3 ystafell wely ar y lloriau uchaf ac eiddo masnachol ar y llawr gwaelod
Mae'r cartrefi ynni-effeithlon hyn yn cynnwys ardaloedd byw modern, cegin ac ystafell ymolchi fodern a mannau parcio oddi ar y ffordd.
Mae canol tref Llanelli yn cynnig popeth sydd ei angen er mwyn byw o ddydd i ddydd, gyda siopau a chaffis lleol, archfarchnadoedd, canolfan siopa Sant Elli, sinema a theatr sy'n cynnal sioeau rheolaidd, gyda Pharc Trostre ond pum munud i ffwrdd yn y car. Mae'r datblygiad hwn felly'n cynnig rhywbeth i bawb.
Mae'r farchnad dan do yn Llanelli yn cynnwys amrywiaeth o stondinau annibynnol. Yn gyforiog â diwylliant Cymreig, digonedd o ffrwythau a llysiau ffres am bris rhesymol, stondinau difyr a defnyddiol, gall siopwyr fanteisio ar y dewis a'r amrywiaeth enfawr sydd ar gael, a chefnogi masnachwyr lleol.
Mae'r A4138 yn cynnig mynediad cyflym i goridor yr M4, sy'n golygu bod teithio ar draws de Cymru yn rhwydd o Stryd y Farchnad. Ceir hefyd ddigonedd o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn teithio ar draws y sir, gyda gorsaf drenau a gorsaf fysiau leol o fewn pellter cerdded.
Dylai'r cartrefi fod wedi'u cwblhau ac ar gael i'w gosod yn nhymor y gaeaf 2025/26.