Datganiad ymgysylltu â thenantiaid
Diweddarwyd y dudalen ar: 10/12/2025
Mae'r datganiad hwn yn esbonio sut y byddwn yn cyflawni ein dyletswyddau i ymgynghori â thenantiaid (a elwir yn ddeiliaid contract o dan y Ddeddf), fel yr amlinellir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) (2016), adran 234 (Trefniadau Ymgynghori) ac adran 235 (Datganiad o Drefniadau Ymgynghori).
Mae ein hymrwymiad i denantiaid yn esbonio sut y byddwn yn cyflawni'r dyletswyddau hyn i ymgynghori â chi. Mae'n rhaid i ni sicrhau eich bod chi fel tenantiaid yn cael gwybod am unrhyw newidiadau rydyn ni'n eu cynllunio i'r ffordd rydyn ni’n rheoli eich cartref. Rhaid i ni hefyd roi amser rhesymol i chi roi eich adborth i ni ar unrhyw newidiadau, cyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau terfynol y cytunwyd arnyn nhw.
Gweledigaeth ac Ysgogwyr Allweddol
Gweledigaeth y cynnig Rheoli Ystadau a Thenantiaeth yw darparu Gwasanaeth Rheoli Tai mwy hygyrch, gweladwy, rhagweithiol ac effeithiol.
Mae angen i ni sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaeth a fydd yn galluogi ein tenantiaid i gynnal eu tenantiaethau a mwynhau eu cymunedau trwy wella sut a ble maen nhw'n byw. Bydd sylw cynyddol cyson ar gamau gorfodi priodol yn erbyn ein tenantiaid yn sicrhau ein bod yn parhau i ddiogelu tenantiaid, preswylwyr a'n cartrefi lle mae tenantiaid yn torri eu telerau ac amodau waeth beth fo'r gefnogaeth a ddarperir.
Mae nifer o ysgogwyr allweddol yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r weledigaeth hon:
| Ysgogwr | Cyd-destun |
|---|---|
| Hygyrchedd a chynhwysiant | Mwy o gyfathrebu a gwelededd ar ystadau. Mae gan denantiaid a phreswylwyr fwy o fynediad i siarad â swyddogion a chael mwy o bresenoldeb ar ystadau. |
| Dull rhagweithiol ac ataliol | Gwell dealltwriaeth o'r anghenion a'r hyn sy'n bwysig i'n tenantiaid. Atal achosion rhag troi i fod yn argyfwng trwy fod yn fwy rhagweithiol wrth ymgysylltu â thenantiaid a gwneud gwelliannau i ystadau. Lleihau straen ac adnoddau ar bob gwasanaeth trwy gael dull mwy cynlluniedig. |
| Cynaliadwyedd tenantiaeth | Cefnogi ein holl denantiaid gyda'r costau byw cynyddol trwy dargedu bod tenantiaid a'u teuluoedd yn cael cymaint o incwm ag sy’n bosibl drwy gyngor a chymorth ymarferol i reoli a lleihau dyled gyffredinol aelwydydd a gwella ansawdd bywyd.
Cefnogi tenantiaid yn y broses bontio nesaf i Gredyd Cynhwysol sydd â risg uwch na rhan gyntaf cyflwyno Credyd Cynhwysol a bydd yn effeithio ar 3500 o denantiaid. Bydd cael y gallu a'r amser i reoli hyn yn effeithiol yn cynyddu refeniw ac yn lleihau dyled. |
| Ymgysylltu ag Aelodau | Drwy greu gwasanaeth hygyrch, rhagweithiol gallwn weithio'n agos gydag aelodau i leihau ymholiadau, cynyddu ymgysylltiad ac addysgu. |
| Sicrhau cymaint o incwm ag sy’n bosibl i'r awdurdod a lleihau'r gost | Canolbwyntio ar yr holl ddyled sy'n ddyledus i'r awdurdod trwy atal ac adennill ôl-ddyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid.
Lleihau'r gost wrth glirio eiddo, gerddi ac ystadau. Assisting in reducing void costs and repairs. |
| Rheoli tenantiaethau cymhleth ac anhrefnus | Nodi'n tenantiaid mwyaf agored i niwed ag anghenion cymhleth a darparu cefnogaeth barhaus, bwrpasol heb gyfyngiad amser a dod o hyd i atebion tymor hir. |
| Bodlonrwydd Tenantiaid | Mwy o welededd a hygyrchedd, dull mwy ataliol ond hefyd y gallu i reoli a datrys yr hyn sy'n bwysig i denantiaid. |
| Dull cydgysylltiedig a chyson | Datblygu gwasanaeth ar gyfer achosion cymhleth sydd angen dull aml-dîm a chreu gwasanaeth cymorth pwrpasol sy'n addas i anghenion unigolion nad oes arno gyfyngiad amser. |
| Gwasanaeth mwy gwydn | Darparu mwy o adnoddau manylach i ddelio â gofynion y timau a bod mewn gwell sefyllfa i ddelio â heriau sy'n codi sy'n gysylltiedig â'r dylanwadau mewnol ac allanol fel costau byw a gweithlu sy'n heneiddio. Trwy gynllunio olyniaeth a dilyniant yn well, gallwn ddatblygu gwasanaeth sy'n addasadwy ac yn hyblyg i'r amgylchedd. |
| Gorfodi | Cynnal camau gorfodi ar denantiaid sy'n torri eu hamodau yn barhaus neu'n ddifrifol. |
Ein Dull o ran Cynnwys Tenantiaid
Rydyn ni wedi ymrwymo i gael eich barn pan fyddwn yn cynllunio ein gwasanaethau, ac mae adborth gan denantiaid yn hanfodol er mwyn i ni allu gwella gwasanaethau i chi.
Ffyrdd o gymryd rhan
- Gwybodaeth - Rydyn ni am wella gwasanaethau, cartrefi ac ystadau wrth weithio mewn partneriaeth â chi. Mae'n bwysig eich bod yn cael gwybod beth rydyn ni'n ei wneud.
- Ymgysylltu - Darparu ystod o ddulliau ymgysylltu. Byddwn yn defnyddio ffyrdd priodol o gyfathrebu â chi ac yn datblygu dulliau hyblyg lle gallwch ddewis cymryd rhan fel y mynnoch.
Rydyn ni eisiau gweithio gyda chi a chael eich syniadau a'ch adborth ar:
- Gwasanaethau i chi fel atgyweiriadau neu welliannau i ystadau
- Cynlluniau a blaenoriaethau i'r dyfodol
- Gwaith gwella wedi'i gynllunio i'ch cartref
Sut mae ein tenantiaid yn cael y wybodaeth ddiweddaraf
Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth am ein gwasanaethau drwy ein cyfryngau cymdeithasol (Facebook, X (Twitter gynt), gwefan y Cyngor, yn ogystal â'n llythyr newyddion misol.
Sut rydyn ni'n annog ac yn galluogi ein tenantiaid i ddweud eu dweud:
Gofynnir i'n tenantiaid sut maen nhw'n dymuno dweud eu dweud ac mae ein dulliau ymgysylltu yn amrywio ac wedi'u targedu yn unol â hynny. Rydyn ni'n anfon arolygon pwnc-benodol trwy ein llythyr newyddion tenantiaid misol, yn ogystal â thargedu tenantiaid sydd wedi cael mynediad i'n gwasanaethau i gael gwybodaeth am ba mor fodlon oedden nhw a sut y gallen ni wella y tro nesaf. Mae hyn yn amrywio o'n gwasanaethau rheoli tai i atgyweiriadau a chynnal a chadw.
Rydyn ni hefyd yn cynnal arolygon bodlonrwydd tenant (Arolwg STAR) gyda thenantiaid bob dwy flynedd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Sut rydyn ni'n galluogi ein tenantiaid i gymryd rhan:
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae ymgynghori ac ymgysylltu â thenantiaid yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â ni ar y manylion isod...
E-bost: maecymunedauynbwysig@sirgar.gov.uk
