Esboniad o'r Dreth Gyngor
Bob blwyddyn rydym yn gwario oddeutu £656 miliwn ar ddarparu gwasanaethau i breswylwyr a busnesau yn Sir Gaerfyrddin. Mae eich Treth Gyngor yn cyfrannu at oddeutu 15.90% o'r gyllideb hon - tua £104 miliwn. Daw'r £552 miliwn sy'n weddill gan grantiau'r Llywodraeth ac incwm y cyngor.
Mae pob eiddo yn Sir Gaerfyrddin yn talu'r Dreth Gyngor, ac mae'r swm yn dibynnu ar beth yw gwerth eich eiddo.
Gallwch ddod o hyd i fand prisio'r dreth gyngor ar gyfer eiddo trwy ymweld â wefan Gov.uk
Mae eich Treth Gyngor yn cynnwys tair rhan. Rydym yn casglu ar ran Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a'ch cyngor tref neu gymuned lleol, sy'n gosod eu cyllidebau eu hunain a lefelau'r Dreth Gyngor. Gweler manylion Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yma https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/y-swyddfa/cyllid/y-praesept-a-r-cynllun-ariannol-tymor-canolig/
Dewiswch eich band i gael gwybod am daliadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23 (ar gyfartaledd ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned):
Treth y Cyngor
Bandiau Treth Gyngor
Talu eich Treth Gyngor
Diweddaru/ychwanegu eich manylion
Gostyngiad person sengl
Mwy ynghylch Treth y Cyngor