Tendrau a Chontractau
Rydym yn gwario tua £443 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau a nwyddau, gan ddarparu busnesau o bob sector, bach a mawr, gydag ystod eang o gyfleoedd masnachol. Rydym yn edrych i brynu cymaint o hyn, ag y bo modd, o fewn y Sir.
Mae’r contractau sydd y tu hwnt i Drothwy Caffael y DU yn cael eu hysbysebu drwy gyfrwng y Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr. Mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac yn disodli 'Tenders Electronic Daily' sef Cyfnodolyn Swyddogol yr UE (OJEU/TED) ar gyfer caffaeliadau yn y DU. Mae'r Gwasanaeth Dod o hyd i Dendr yn gweithio ochr yn ochr â'r pyrth caffael presennol gan gynnwys GwerthwchiGymru.
Mae'r holl weithgaredd caffael dros £30,000 mewn gwerth yn cael ei hysbysebu ar y wefan gaffael genedlaethol Gwerthwch-i-Gymru ac argymhellir eich bod yn cofrestru'n rhad ac am ddim ar y wefan hon. Mae hyn yn eich galluogi i hyrwyddo'ch sefydliad a derbyn rhybuddion e-bost awtomatig o gyfleoedd addas.
Ar hyn o bryd, mae rhywfaint o’r gweithgaredd caffael o dan £30,000 yn cael ei roi ar wefan Gwerthwch-i-Gymru, ond rydym yn aros am gyfarwyddyd ynghylch sut orau i fynd i’r afael â’r lefel hon o wariant. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y gwerth is hwn a pha mor ddeniadol yw i fusnesau bach, yn enwedig busnesau newydd. Mae man cyswllt cyntaf a dolen gyswllt i fusnesau ynghylch caffael wedi ar gael a gall roi mwy o wybodaeth ynghlyn a masnachu gyda’r Cyngor. Mae hyn yn cynnwys:
- Cyngor ac arweiniad proffesiynol ynghylch materion yn ymwneud a chaffael
- Nodi amrywiol dulliau o hysbysebu cyfleoedd am gontractau sydd ar ddod yn y Cyngor
- Nodi cysylltiadau yn yr Awdurdod a chysylltu a nhw ar ran y cyflenwyr gan ddod a phrynwyr a gwerthwyr posibl ynghyd
Wrth gwrs, mae llawer o gyflenwyr yn cystadlu am yr hawl I gyflawni gwaith a chontractau i ddarparu nwyddau a gwasanaethau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin. Ni allwn addo llwyddiant i gwmnïoedd unigol.
Fodd bynnag, ein nôd yw rhoi digon o wybodaeth fel bod modd I fusnesau gystadlu am unrhyw gyfleoedd sy’n codi a hyrwyddo system de gar gyfer yr holl gyflenwyr posibl.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu apwyntiad, cysylltwch â Caffael Corfforaethol ar e-bostiwch: crcorporateprocurement@sirgar.gov.uk