Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/04/2026
Yn 2026-27, bydd y Cynllun Ardrethi Annomestig yn darparu rhyddhad ardrethi i fusnesau cymwys yn y sector lletygarwch bwyd a diod yn unig, er enghraifft tafarndai, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw.
Bydd talwyr ardrethi cymwys yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 15% yn 2026-27. Yn debyg i'r cymorth dros dro a ddarparwyd yn y blynyddoedd blaenorol, bydd y rhyddhad hwn yn cael ei gapio ar £110,000 fesul busnes ledled Cymru.
Mae'n ofynnol i fusnesau wneud datganiad wrth gyflwyno cais i awdurdodau lleol unigol, yn cadarnhau nad yw cyfanswm y rhyddhad y maent yn cyflwyno cais amdano ledled Cymru yn uwch na'r cap hwn. Bydd y rhyddhad yn cael ei ddyfarnu gan ddefnyddio pwerau disgresiwn awdurdodau lleol, yn dilyn ceisiadau gan dalwyr ardrethi cymwys ar ôl 1 Ebrill 2026.
Mae mwy gwybodaeth ar gael ar gwefan Busnes Cymru.
