Deg Tref
Rhaglen Deg Tref
Diben ein menter Deg Tref yw cefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y Sir.
- Castell Newydd Emlyn
- Cross Hands
- Cwmaman
- Cydweli
- Hendy Gwyn
- Llandeilo
- Llanymddyfri
- Llanybydder
- Sanclêr
- Talacharn
Sefydlwyd y fenter fel ymateb uniongyrchol i'n Cynllun Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen sy'n nodi nifer o argymhellion allweddol er mwyn helpu i adfywio Sir Gaerfyrddin wledig.
Yn dilyn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid lleol, datblygwyd cynllun twf economaidd i bob tref.
Menter y deg tref
Rydym wedi datblygu nifer o gyfleoedd fel ymateb i drafodaethau ac ymgynghoriadau a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid i gefnogi'r cyfleoedd cynaliadwyedd a thwf ar draws trefi marchnad wledig y Sir.

Cronfa Adfywio Trefi Gwledig
Fel rhan o'r rhaglen 10 Tref, gallai safleoedd masnachol ar draws trefi gwledig y Sir fod yn gymwys i gael cymorth ariannol o hyd at £2000 i adfywio blaen eu siopau.
Mae hon yn gronfa wedi'i thargedu ar gyfer safleoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd dynodedig ym mhob tref farchnad wledig. Gellir ystyried ceisiadau o safleoedd sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig pob tref fesul achos pe bai'r prosiect yn cael effaith sylweddol.
Sut i gael cefnogaeth?
Cysylltwch â RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk i drafod eich cais prosiect gyda swyddog. Rhaid i bob cais sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r canllawiau a'r argymhellion a nodir yng Nghanllaw Dylunio Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin.
Pwy all wneud cais?
Mae rhydd-ddeiliaid a les ddeiliaid yn gymwys.
Pa fath o wariant sy'n gymwys?
- Addurno adeilad
- Goleuadau
- Canopïau (yn amodol ar ganiatâd cynllunio)
- Arwyddion dwyieithog newydd (yn amodol ar ganiatâd statudol)
Y cynnig
- Uchafswm grant o £2000 yn seiliedig ar 80% o gyfanswm costau'r prosiect
- Rhaid i ymgeiswyr ddarparu cyfraniad cyfatebol o 20% o gyfanswm cost gymwys y prosiect
Amserlen
- Bydd y gronfa ar agor nes bod y cyllid wedi dirannu'n llawn.
- Gall y rhai sy'n llwyddiannus ddechrau’r gwaith wedi derbyn llythyr cynnig grant.
- Nid yw gwaith a wneir cyn derbyn llythyr cynnig grant yn gymwys,
Ymgeisio
Rhaid i bob cais sicrhau ei bod yn cyd-fynd â'r canllawiau a'r argymhellion a nodir yng Nghanllaw Dylunio Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin.

Cronfa Datblygiad Cyfalaf Deg Tref
Fel rhan o'r rhaglen deg Tref, gall safleoedd masnachol gwag ar draws trefi gwledig y Sir fod yn gymwys i gael cymorth ariannol hyd at £50,000 i ailddatblygu adeiladau canol tref sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr gwael.
Mae hon yn gronfa wedi'i thargedu ar gyfer safleoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd dynodedig ar draws ein trefi gwledig.
Gellir ystyried ceisiadau o safleoedd sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r ardal ddynodedig pob tref fesul achos pe bai'r prosiect yn cael effaith sylweddol.
Pwy all wneud cais?
- Perchnogion
- Lesddeiliaid sydd â phrydles 7 mlynedd yn weddill o ddyddiad y taliad terfynol
Prosiectau cymwys
- Dylai ffocws bob cais fod ar ddatblygu tu fewn adeiladau gwag er mae gwaith i du allan ac yn y cwrtil yn gymwys.
- Rhaid i'r ymgeisydd sicrhau, gan ddefnyddio cyngor proffesiynol priodol yn ôl yr angen, fod y gwaith arfaethedig yn dechnegol addas, bod ganddo uniondeb strwythurol, a'i fod wedi sicrhau pob caniatâd a thrwydded statudol briodol.
Y cynnig
- Uchafswm grant o £50,000 yn seiliedig ar 70% o gyfanswm y prosiect
- Rhaid i ymgeiswyr ddarparu cyfraniad cyfatebol o 30% o gyfanswm cost gymwys y prosiect
Amserlen
- Bydd gofyn i ddarpar ymgeiswyr gyflwyno datganiad o ddiddordeb (EOI) yn y lle cyntaf.
- Bydd swyddog yn trefnu i gwrdd ag ymgeiswyr posibl
- Rhaid cyflwyno EOI erbyn 11:59pm 30 Mawrth 2025
- Bydd prosiectau y bernir eu bod yn addas yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn
- Rhaid cyflwyno ceisiadau llawn erbyn 11:59pm fan bellaf ar 18 Ebrill 2025
- Bydd ceisiadau llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn diwedd mis Mehefin 2025 man pellaf.
- Nid yw gwaith a wneir cyn derbyn llythyr cynnig grant yn gymwys.
- Rhaid i brosiectau gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2025 a rhaid iddynt roi sicrwydd y gellir cwblhau'r gwaith yn yr amserlen hon.
Ymgeisio
Cysylltwch â RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk i drafod eich prosiect gyda swyddog.