Gellir ystyried grantiau sydd ar gael rhwng £1,000.00 a £50,000 fesul achos ar gyfer ceisiadau sy'n dangos yn glir arloesi, Ymchwil a Datblygu a/neu brosiectau diogelu'r dyfodol sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Arloesedd Lleol
Bydd pob grant a ddyfernir yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys
Mae’n bwysig nodi bod grantiau’n cael eu talu’n ôl-weithredol, mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â’r modd ariannol i brynu’r nwyddau a/neu wasanaethau yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn y broses hawlio (gweler y dudalen nesaf) telerau ac amodau yn y ddogfen hon)
Rhaid cyflwyno hawliadau o fewn 4 mis i'r llythyr cynnig neu erbyn 31 Rhagfyr 2025 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. I gefnogi llif arian, bydd y tîm grant yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond rhaid ceisio cytundeb ymlaen llaw gan y Cyngor.
Bydd ceisiadau lluosog am y grant Ymchwil a Datblygu yn cael eu hystyried gan un cwmni ar gyfer cynigion prosiect ar wahân