Grant Ymchwil A Datblygu

5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Mae gwariant anghymwys yn cynnwys: -

·        Gwariant refeniw cyffredinol megis costau staff neu unrhyw drethi eraill, hurbwrcas/prydles,

·        Cerbydau Cyffredinol megis ceir a faniau

·        Gwariant marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys gwefannau, a deunyddiau hyrwyddo untro fel cardiau busnes, deunydd ysgrifennu â phennawd, ac ati

·        Gwelliant adeiladau / mân waith adeiladu.

·        Costau atgyweirio, cynnal a chadw ac addurno, gan gynnwys lloriau a charpedi cyffredinol.

·        Amnewid gosodiadau a ffitiadau presennol.

·        Ffioedd a chostau wrth gefn a ymrwymwyd neu a wariwyd cyn cynnig a derbyn y grant.

·        Costau cyfalaf gweithio megis stoc, rhent, trethi, gweinyddiaeth.

·        Aelodaeth ac ymlyniad i gyrff llywodraethu, ayyb.

·        Costau gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol, gan gynnwys caniatâd cynllunio.

Amodau Cyffredinol:

·        Os yw'r busnes bach a chanolig wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, yna ni fydd TAW yn gymwys. Bydd TAW yn daladwy mewn achosion o gwmnïau sydd heb gofrestru ar gyfer TAW. Os nad yw’r ymgeisydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ar y pwynt gwneud cais ond yn anelu at gael ei gofrestru o fewn y 12 mis dilynol, bydd y grant yn daladwy ar sail y costau NET (gan y bydd y busnes yn gallu hawlio TAW yn ôl-weithredol)

·        Ni ddylid gwneud unrhyw wariant cyn cymeradwyo grant gan na ellir dyfarnu grantiau yn ôl-weithredol. Ni allwn ystyried eitemau sydd wedi'u hymrwymo i'w prynu e.e. blaendal diogelwch heb ganiatâd ymlaen llaw gan y tîm grantiau. Rhoddir ystyriaeth i hyn fesul achos.

·        Ni fydd pryniannau arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer taliad grant.

·        Ni fydd eitemau a brynir drwy brydles, hurbwrcas, cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant.

·        Ffioedd proffesiynol sy'n gysylltiedig ag ymgynghorwyr busnes cyffredinol gan gynnwys cynlluniau busnes/ysgrifennu BID ac unrhyw ffioedd sy'n gysylltiedig â chwblhau cais at ddibenion grantiau

Ni fydd grantiau’n daladwy pan fo ardrethi busnes a/neu dreth y cyngor yr ymgeisydd mewn ôl-ddyledion.

NI DDYLID DEFNYDDIO'R GRANT AR GYFER:

        Dibenion plaid wleidyddol

        Hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol penodol

        Gamblo

        Pornograffi

        Cynnig gwasanaethau rhywiol

        Unrhyw fath o weithgaredd anghyfreithlon; neu

        Unrhyw fath o weithgaredd a allai, ym marn y Cyngor, ddwyn anfri ar y Cyngor sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithdrefnau heb eu rheoleiddio ac ymledol, cynhyrchion a thriniaethau, modelu noethlymun neu lled-noethlymun canolfannau hapchwarae, gwasanaethau gwely haul, therapïau amgen, cynhyrchion a meddyginiaethau, aciwbigo, siopau fêp, siopau tybaco, dylanwadu cyfryngau cymdeithasol, cwnsela, hyfforddi bywyd, tatŵ, adeiladu hapfasnachol, triniaethau meddygol cyflenwol, cynhyrchion cosmetig, gweithdrefnau esthetig, cynhyrchion olew CBD ac arian cyfred digidol.