Grant Ymchwil A Datblygu

1. Cyflwyniad

*Mae'r grant hwn ar gau ar hyn o bryd. Os hoffech gael eich ychwanegu at restr aros ar gyfer cyllid grant posibl yn y dyfodol, e-bostiwch cronfabusnes@sirgar.gov.uk  gyda'ch enw, enw busnes, prosiect arfaethedig ac amcangyfrif o werth y gwariant a chais am grant*

Fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i gefnogi Ymchwil a Datblygu ac arloesi mewn datblygu economaidd a busnesau, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu Grant Ymchwil a Datblygu Sir Gaerfyrddin a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Nod yr ymyriad grant hwn yw cryfhau ymchwil a datblygu ac arloesi yn yr ecosystemau entrepreneuriaid lleol a chefnogi busnesau yn ystod camau cynnar datblygu cynnyrch, proses a/neu wasanaeth arloesol o fewn gweithrediad a/neu sector busnes, marchnad ac ati.

Bydd y grant yn cefnogi busnesau lleol a Mewnfuddsoddwyr i ymgymryd â chynnyrch, proses a/neu ddatblygiad i dyfu, ffynnu a bod yn gynaliadwy.

Bydd y grant ar agor rhwng hyd at fis Medi 2024 neu hyd nes y bydd y gronfa wedi'i dyrannu'n llawn.