Grant Ymchwil A Datblygu
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Y Cynnig
- 3. Cymhwysedd
- 4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 6. Offer ail-law
- 7. Swyddi a gaiff eu creu / eu diogelu
7. Swyddi a gaiff eu creu / eu diogelu
Bydd yr holl geisiadau sydd wedi'i cwblhau yn llawn cael eu hystyried ar sail y cyntaf i'r felin nes bydd y gronfa wedi'i ddyrannu'n llawn.
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a chanlyniadau'r prosiect grant, h.y.
- Busnesau sy'n derbyn grant
- Busnes yn cymryd rhan mewn marchnadoedd newydd
- Busnesau yn mabwysiadu cynhyrchion / gwasanaethau newydd neu well
- Busnesau sy'n mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd i'r cwmni
- Nifer y busnesau ymchwil a datblygu gweithredol
- Cynnydd yn nifer y BBaChau sy'n weithredol o ran arloesi
- Cynhyrchion newydd i'w marchnata
Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn sero carbon net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy trwy ei raglenni cyllido. Fel rhan o'r cais gofynnir ichi sut mae'ch busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac yn ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)
I ddechrau mae'n ofynnol i ymgeisydd gyflwyno mynegiant o ddiddordeb: growth-grant-eoi-welsh.docx (live.com) Bydd y mynegiad o ddiddordeb wedyn yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os caiff ei gymeradwyo gwahoddir chi i gyflwyno cais llawn.
Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd yr eitemau canlynol:
- Ffurflen Gais wedi'i gwblhau'n llawn
- O leiaf 2 flynedd lawn o gyfrifon hanesyddol a chyfrifon rheoli diweddar, os yw ar gael. Os nad yw busnes wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a neu grynodeb o wariant incwm a gwariant o'r dyddiad cychwyn masnachu hyd at ddyddiad ymgeisio
- 2 flynedd o ragolygon a ragwelir (llif arian a/neu elw a cholled)
- Dyfyniadau ysgrifenedig ffurfiol ar gyfer yr eitemau sydd wedi’u cynnwys yn y cais
- Dyfynbrisiau Ysgrifenedig (gweler isod am ganllawiau caffael)
- Safonau'r Iaith Gymraeg- gweler y canllawiau pellach isod
- Polisi Amgylcheddol / Cynaliadwyedd – Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Dylid nodi mai grant disgresiwn yw Cronfa Ffyniant Gyffredin Sir Gaerfyrddin Grant Ymchwil a Datblygu ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cyfarfod yn fisol i ystyried ceisiadau.
Noder - Bydd angen i’r ceisiadau bod yn hollol barod cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r panel, felly rhaid cadarnhau gofynion hanfodol megis ariannu cyfatebol, caniatâd cynllunio (lle bo hynny'n berthnasol), ayyb cyn y bydd y tîm grant yn paratoi'r cais i'w ystyried yn y panel.
Bydd eithriadau i'r amodau hyn yn cael eu hystyried fesul achos.