Grant Ymchwil A Datblygu
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Y Cynnig
- 3. Cymhwysedd
- 4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 5. Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- 6. Offer ail-law
- 7. Swyddi a gaiff eu creu / eu diogelu
4. Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
Gwariant Cyfalaf:
Bydd y grant yn berthnasol ar gyfer gwariant cyfalaf a/neu wariant refeniw mewn prosiect cymeradwy a gall gynnwys:
- Costau cyfalaf neu refeniw arbenigol sy'n gysylltiedig â datblygu a phrofi cynhyrchion a / gwasanaethau newydd, gan gynnwys prototeipio, dylunio, gweithgynhyrchu, monitro, gwerthuso, ac ati.
- Costau sy'n gysylltiedig ag ymchwil a datblygu marchnad / dadansoddi'r farchnad / mapio a chwmpasu / dadansoddi cystadleuwyr, ac ati.
- Costau sy'n gysylltiedig ag astudiaethau dichonoldeb a/neu hyfywedd ac adroddiadau ar gyfer datblygu cynhyrchion, prosesau a/neu wasanaethau.
- Costau sy'n gysylltiedig â patentu, gan gynnwys drafftio a ffeilio
- Costau sy'n gysylltiedig â masnacheiddio'r cynnyrch, y broses a/neu'r gwasanaeth gan gynnwys marchnata a hyrwyddo
- ** rhaid cynhyrchu pob deunydd marchnata a hyrwyddo yn ddwyieithog.
- Hyfforddiant arbenigol / technegol (ddim o reidrwydd wedi'i achredu)
- Meddalwedd Arbenigol
- Tystysgrif Sicrwydd Ansawdd (a asesir fesul achos)