Gwybodaeth i'r diwydiant
Diweddarwyd y dudalen ar: 29/11/2023
Mae dod â chysylltedd gwell i Sir Gaerfyrddin yn flaenoriaeth i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Bydd trigolion Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe yn elwa o raglen Ddigidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n cwmpasu pob rhan o Ddinas Bae Abertawe.
Fel rhan o'r rhaglen ddigidol, bydd y blaenoriaethau canlynol yn cael sylw:
- Sicrhau bod gan ddinasoedd, trefi a pharciau busnes y rhanbarth fynediad i'r rhyngrwyd ffibr llawn
- Paratoi y rhanbarth ar gyfer 5G a'r rhyngrwyd pethau, sy'n cynnwys cartrefi smart, gweithgynhyrchu smart, technoleg amaethyddiaeth, profiad rhithwir, a thechnoleg y gellir ei gwisgo i gefnogi gofal iechyd, byw â chymorth, a sectorau eraill.
Mae Rheolwr Seilwaith y Genhedlaeth Nesaf a Swyddog Cymorth ac Ymgysylltu Seilwaith Digidol ar waith yn Sir Gaerfyrddin i ddarparu cefnogaeth i ddiwydiant a'r cyhoedd.
Cysylltwch a Bandeang@Sirgar.gov.uk am wybodaeth pellach.