Balchder Bro - Llanelli
Mae Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU yn gynllun adfywio a grymuso cymunedol hirdymor, ac mae'n darparu hyd at £20 miliwn i bob cymdogaeth dros 10 mlynedd. Mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth leol, cymorth hirdymor, a datblygiadau dan arweiniad y gymuned.
Mae'r cyllid yn cael ei ddyrannu trwy Fyrddau Cymdogaeth sy'n cynnwys preswylwyr, busnesau lleol, grwpiau ar lawr gwlad, ac ASau/cynghorau lleol, gan roi rheolaeth uniongyrchol i gymunedau dros wariant. Mae hyn yn cryfhau cyfranogiad dinesig ac yn sicrhau bod gwelliannau yn adlewyrchu blaenoriaethau lleol.
Bydd yr ardaloedd hynny sy'n cael eu dewis yn derbyn hyd at £20 miliwn dros ddegawd, gan alluogi prosiectau trawsnewidiol a fyddai'n amhosibl gyda grantiau tymor byr. Mae'r canllawiau'n tynnu sylw at bwysigrwydd "cyllid hyblyg" sy'n gallu addasu i anghenion lleol sy'n datblygu dros sawl cyfnod buddsoddi.
Gall cymunedau gyfeirio cyllid at welliannau fel adfywio'r Stryd Fawr, gwella palmantau a golwg y strydoedd, mannau chwarae, mannau diwylliannol ac ardaloedd gwyrdd. Mae'r buddsoddiadau hyn yn helpu i adfer balchder, cynyddu nifer yr ymwelwyr, a gwneud cymdogaethau'n lanach, yn fwy diogel ac yn fwy pleserus.
Mae'r rhaglen yn annog:
- Prosiectau tai dan arweiniad y gymuned
- Mentrau cymdeithasol
- Busnesau cydweithredol
- Perchnogaeth y gymuned ar asedau
Mae'r modelau hyn yn helpu i gadw arian yn yr ardal leol yn hytrach na'i golli trwy elw preifat, gan gefnogi twf economaidd lleol cynaliadwy. Mae'r cyllid wedi'i anelu at gymunedau sydd heb gael buddsoddiad digonol yn y gorffennol neu sy'n ddifreintiedig iawn. Mae hyn yn helpu i godi safon gwasanaethau lleol, gwella mannau cyhoeddus, a sicrhau tegwch wrth ddosbarthu adnoddau.
Gall y cynllun hwn fod yn gatalydd ar gyfer rhagor o fuddsoddiad, gan gynnwys dyngarwch, buddsoddwyr cymdeithasol, ac adrannau eraill y llywodraeth. Gall yr effaith lluosydd hon gynyddu gwerth y cyllid gwreiddiol yn sylweddol.
Yn dilyn cais gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae ardal Llanelli wedi cael ei derbyn i'r cynllun. Y cam cyntaf yw penodi Cadeirydd y Bwrdd Cymdogaeth, a fydd wedyn yn gyfrifol am benodi gweddill aelodau'r bwrdd.
Y bwrdd sy'n penderfynu sut i wario'r adnoddau a'r Cyngor Sir yw'r corff atebol sy'n gyfrifol am y trefniadau llywodraethu. Ar ôl sefydlu'r bwrdd, bydd ymgynghoriad helaeth yn cael ei gynnal a fydd yn llywio cynnwys Cynllun Buddsoddi cyn i'r gwaith ddechrau yn 2027.