Hwb Iechyd a Llesiant

Rydym yn trawsnewid hen adeilad Debenhams yng Nghaerfyrddin yn Hwb Iechyd a Llesiant unigryw.

Bydd yr Hwb Iechyd a Llesiant yn darparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys gofal iechyd cyhoeddus, canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid Hwb, a champfa Actif 24 awr newydd.

Cyfleusterau i gynnwys Canolfan Adloniant newydd i'r Teulu, golff antur dan do, chwarae meddal tref chwarae, E-Gwib-gartio a TAG Active.

Disgwylir i'r gwaith ar y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd ddechrau ym mis Gorffennaf 2024, gyda'r bwriad o agor i'r cyhoedd yn gynnar yn 2026.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Integreiddio ac Ail-gydbwyso Gofal (IRCF)  Llywodraeth Cymru ynghyd â chyllid pellach gan Lywodraeth y DU.