Cwestiynau Cyffredin Llwybr Dyffryn Tywi

Dyma’r cwestiynau cyffredin a’r atebion am Lwybr Dyffryn Tywi. Os na allwch ddod o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn isod, e-bostiwch TowyValley@sirgar.gov.uk 

Mae'r llwybr defnydd a rennir yn 3 metr o led yn bennaf a bydd yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio amrywiaeth o arwynebau sy'n addas ar gyfer ei ddefnyddio a'r amgylchoedd. Bydd y llwybr yn cael ei ddosbarthu fel llwybr beicio a bydd yn darparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Bydd adrannau eraill yn cael eu cwblhau dros fisoedd yr haf, lle bydd rhannau ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio. Gofynnir i aelodau’r cyhoedd beidio â cheisio cael mynediad a defnyddio’r llwybr ar hyd y rhannau hyn lle mae gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. Elfennau olaf y llwybr fydd y 2 brif bont ar draws afonydd Tywi a Cothi. Disgwylir i'r rhain gael eu dosbarthu a'u gosod yn yr Hydref.

Mae mannau parcio ar gael gerllaw tir yr amgueddfa yn Abergwili ac yn Nhafarn y Rheilffordd, Nantgaredig, lle gellir prynu lluniaeth.

Mae nifer o leoliadau wedi cael eu hystyried fel pwyntiau mynediad/canolfannau a fydd yn cynnwys cyfleusterau ychwanegol fel mannau parcio, gorffwys neu bicnic. Bydd y rhain yn bennaf gerllaw neu mewn mannau lle mae'r llwybr yn cwrdd â'r briffordd gyhoeddus, neu hawliau tramwy cyhoeddus eraill. Gall pwyntiau mynediad eraill fod ar gael drwy gytundeb gyda thirfeddianwyr. 

Mae'r pwyntiau mynediad sydd bellach ar agor i'w defnyddio wrth ymyl amgueddfa Sir Gaerfyrddin ym Mharc yr Esgob, Abergwili lle mae mannau parcio a lluniaeth.

Rydym yn croesawu mentrau a syniadau masnachol ar hyd y llwybr ac anogir unrhyw bartïon sydd â diddordeb i anfon neges e-bost i twristiaeth@sirgar.gov.uk.

Nid oes mynediad cyhoeddus i'r afonydd ar unrhyw bwynt ar hyd y llwybr.

Gall dyluniad cychwynnol da gyda manyleb a nodweddion priodol leihau'r angen am waith cynnal a chadw. Bydd gwaith cynnal a chadw llystyfiant cychwynnol yn ystod y cyfnod adeiladu, ynghyd â'r dewis o arwyneb, yn sicrhau cyfnod hir heb waith cynnal a chadw ac ychydig iawn o waith wedi hynny, gan gyfrannu at gost bywyd cyfan isel.

Rydym wedi ymrwymo i gynnal yr ased cymunedol gwerthfawr hwn ynghyd â cheisio sefydlu grŵp gwirfoddol lleol fel Cymoni eich Cymuned - cysylltwch â twristiaeth@sirgar.gov.uk.

Roedd adroddiad cwmpasu wedi asesu nifer o opsiynau posibl ar y ffordd ac oddi ar y ffordd, a daeth i'r casgliad y dylid defnyddio'r hen reilffordd lle bo modd.

Nodir bod hen reilffyrdd yn gwneud llwybrau cerdded a beicio ardderchog, sydd eisoes yn llwybrau trafnidiaeth uniongyrchol parhaus sy'n cysylltu cymunedau. Maent yn weddol wastad gyda graddiannau graddol, ac mae ganddynt hefyd sylfaen dda ar gyfer adeiladu. Mae'r cysylltiadau â'r canolfannau cymunedol/trefol ar bob pen ac ar hyd y llwybr yn destun gwaith dichonoldeb pellach ac mae opsiynau'n cael eu harchwilio.

Cafodd adroddiadau ac arolygon amgylcheddol ac ecolegol eu cynnal yn gynnar fel bod dyluniadau nid yn unig yn gallu lleihau a dileu'r effaith ar leoliadau sensitif ond eu bod hefyd yn darparu gwelliannau amgylcheddol lle bo hynny'n bosibl. 

Na, er y gall y llwybr groesi dros ddaliad tir, ni fydd y tir i bob ochr yn cael ei dorri. Gellir cynnal mynediad i'r tirfeddiannwr i weddu i'r anghenion penodol, trwy gytundeb.

Mae’r broses prynu gorfodol wedi’i chwblhau’n llwyddiannus, ac mae’r holl dir sy’n angenrheidiol i gyflawni’r cynllun bellach wedi’i freinio, ac o dan reolaeth yr Awdurdod Lleol.

Rydym wedi cael £16.7 miliwn gan Lywodraeth y DU, Cronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru a grantiau'r Gronfa Teithio Llesol. Mae rhagor o arian wedi cael ei sicrhau drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae'r grantiau hyn wedi cyfrannu tuag at ddatblygu cynlluniau ynghyd â'r gwaith sydd wedi'i gwblhau hyd yn hyn. 




Llwythwch mwy