Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands
Lleolir Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin a Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae'r safle cyflogaeth mawr hwn yn cynnig cyfle rhagorol:
- 10 hectar o dir datblygu
- Amgylchedd parc busnes modern mewn lleoliad eithriadol.
- Cysylltiadau trafnidiaeth rhagorol â mynediad uniongyrchol i rwydweithiau ffyrdd yr A48/M4.
- Hyrwyddo datblygiadau o ansawdd uchel
- Potensial ar gyfer cymorth ariannol.
Mae'r gwaith seilwaith ar gyfer y safle wedi cael ei ariannu drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir. Pan fydd wedi'i ddatblygu'n llawn, bydd y safle yn cynnwys:
- 31,000 metr sgwâr o arwynebedd llawr cyflogaeth
- Hyd at 1000 o swyddi
- Hyd at 50 o Fusnesau Bach a Chanolig
Y Lleiniau/Gwasanaethau
Mae 12 llain ar gael yn syth yn amrywio o ran maint o 0.40 erw i 1.67 erw. Mae gan bob llain fynediad i garthffosydd dŵr brwnt a dŵr wyneb, trydan, nwy a dŵr o'r prif gyflenwad.
Gosodwyd dwythellau band eang deublyg er mwyn caniatáu i ddatblygwyr fod yn hyblyg o ran dewis cyflenwr.
Disgwylir i amlinelliad y datblygiad gynnwys 35-45% o bob llain.
Cliciwch yma i weld llyfryn o’r safle

Cynllunio
Mae gan Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands ganiatâd cynllunio ar gyfer dosbarthiadau B1 (Busnes) a B8 (Storio a Dosbarthu). Ni chaniateir defnydd manwerthu na chownter masnachu. Rhoddir sylw penodol i ddibenion sy'n cyd-fynd ag amcanion ehangach y safle, gan flaenoriaethu dibenion yn y sectorau canlynol:
- Gweithgynhyrchu uwch
- Creadigol
- Ynni a'r Amgylchedd
- Technoleg Bwyd-Amaeth
- Gwaith Ariannol a Phroffesiynol
Bydd pob cynnig datblygu yn cael ei gyflwyno er mwyn i'r Cyngor ystyried a yw'n addas ac yn gymwys cyn cyflwyno Cais Cynllunio. Bydd angen caniatâd cynllunio ar bob cais datblygu cyn y gellir rhoi Prydles.
Lleoliad
Mae lleoliad y safle'n cynnig manteision amlwg, gan gynnwys mynediad hawdd i'r dwyrain a'r gorllewin ar hyd yr A48/M4 ac i ganolfannau poblogaeth lleol. Gellir cyrraedd terfynfa nwyddau yn Noc Penfro o fewn 60 munud, a gellir cyrraedd Bryste o fewn 90 munud. Mae'r safle wedi'i leoli oddeutu 10 milltir i'r gogledd o Lanelli a 15 milltir i'r gorllewin o Abertawe ar hyd yr M4 a'r A48. Fel arfer mae'n cymryd 20 munud i deithio o Gaerfyrddin a Llanelli a 25 munud o Abertawe. Mae'n cymryd tua awr i gyrraedd Caerdydd.

Parc Gelli Werdd
Mae Parc Gelli Werdd yn ddatblygiad newydd a chynaliadwy o weithdai a swyddfeydd o'r radd flaenaf sydd wedi'u lleoli ar safle Dwyrain Cross Hands.
Mae'r datblygiad blaenllaw yn cynnwys tri adeilad masnachol, cyfanswm o 32,500 tr2. Mae gan y safle ganiatâd cynllunio ar gyfer defnyddiau B1 a B8, ond byddwn yn ceisio defnydd B1 yn bennaf. Mae prydlesi ar gael i denantiaid addas y sector preifat.
Bydd y tri adeilad yn cynnwys:
Adeilad 1 – Swyddfeydd as Unedau Hybrid
Adeilad 2 – Unedau Hybrid
Adeilad 3 – Unedau Diwydiannol Ysgafn
Mae rhai o'r unedau wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg fel y gellir eu defnyddio ar gyfer defnyddiau diwydiannol ysgafn neu fel swyddfeydd
Yn allanol, bydd y datblygiad yn cynnwys digon o le parcio ceir, pwyntiau gwefru trydan, iard wasanaeth a siop feiciau yn ogystal â thirlunio helaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â:
Peter Edwards / Cath Jones
Ffôn: 01267 246254
E-bost: CJones@sirgar.gov.uk / PEdwards@sirgar.gov.uk
RHYBUDD PWYSIG - yn amodol ar y Contract ac Argaeledd: Bwriedir i’r manylion hyn roi disgrifiad teg o’r eiddo, ond canllaw ydynt yn unig. Ni ellir gwarantu eu cywirdeb a dylech chi fodloni eich hun eu bod yn gywir, drwy eu harchwilio neu fel arall. Mae rheidrwydd ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ystyried pob cynnig a ddaw i law am yr eiddo hwn hyd nes y cyfnewidir contractau. Nid oes rheidrwydd arno i dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig.