Amcanion Caffael Cymdeithasol Gyfrifol

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 yn cyflwyno dyletswydd Caffael Cymdeithasol Gyfrifol (Adran 24), sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio gaffael mewn modd sy'n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Rhaid i awdurdodau osod amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol, eu cyhoeddi ac adrodd yn flynyddol yn eu cylch.

Datblygwyd ein Hamcanion Caffael Cymdeithasol Gyfrifol drwy adolygiad o'r polisïau presennol, y blaenoriaethau strategol a'r gofynion deddfwriaethol, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n Strategaeth Gaffael 2023–2028 a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Aseswyd yr amcanion arfaethedig o ran y gallu i'w cyflawni ar draws cylch oes caffael, y gallu i'w mesur drwy fframweithiau adrodd presennol, ac o ran cyd-fynd â dyletswyddau statudol a llesiant.

Cynhaliwyd ymgynghoriad wedi'i dargedu â swyddogion ar draws y Cyngor, gan gynnwys timau polisi a rheolwyr fframwaith strategol, i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau corfforaethol ac Amcanion Llesiant. Roedd gwaith ymgysylltu â chydweithwyr caffael ar draws awdurdodau Cymru hefyd yn llywio'r dull gweithredu, gan gefnogi cysondeb mewn caffael cydweithredol ac adlewyrchu arferion da sy'n dod i'r amlwg. Mae'r broses hon yn sicrhau bod amcanion terfynol Sir Gaerfyrddin yn glir ac yn gymesur a bod modd eu cyflawni, gan adlewyrchu blaenoriaethau lleol a disgwyliadau caffael cyhoeddus ehangach.

 

Ein hamcanion caffael cymdeithasol gyfrifol

Mae'r amcanion hyn wedi'u cynllunio i wneud y cyfraniad mwyaf at bob un o'r saith Nod Llesiant gyda'i gilydd, gan gymhwyso'r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn ogystal â sicrhau bod modd eu cyflawni a'u mesur ar draws cylch oes caffael.

Amcan Caffael 1 – Cefnogi busnesau bach a chanolig a chadwyni cyflenwi gwydn

  • Cynyddu i ba raddau y mae gweithgarwch caffael y Cyngor yn galluogi mynediad teg, agored a chymesur i gyfleoedd, gan gefnogi sylfaen gyflenwyr amrywiol, wydn a chynaliadwy, a chryfhau gwydnwch economaidd lleol a rhanbarthol.

Amcan Caffael 2 – Sicrhau gwerth cymdeithasol a budd i'r gymuned

  • Cryfhau cyfraniad caffael at ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd cadarnhaol drwy sicrhau bod penderfyniadau caffael a'r broses o gyflawni contractau yn cefnogi llesiant cymunedol ehangach a thwf cynhwysol ac yn sicrhau gwerth am arian ar sail oes gyfan, gan gydbwyso cost, ansawdd a chanlyniadau gwerth cymdeithasol ehangach.

Amcan Caffael 3 – Lleihau carbon a'r effaith amgylcheddol

  • Gwella cynaliadwyedd amgylcheddol caffael drwy leihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol ehangach sy'n gysylltiedig â nwyddau, gwaith a gwasanaethau, gan gefnogi uchelgeisiau'r Cyngor o ran sero net ac adfer natur dros oes contractau.

Amcan Caffael 4 – Caffael moesegol a chyfrifol

  • Sefydlu arferion moesegol, teg a thryloyw drwy gydol cylch oes caffael, gan sicrhau bod gweithgarwch caffael yn cefnogi gwaith teg, cadwyni cyflenwi cyfrifol a llesiant diwylliannol, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, ac ymddiriedaeth y cyhoedd, yn ogystal â bodloni rhwymedigaethau statudol a pholisi.

 

Mae mwy wybodaeth ar gael ar wefan Deddfwriaeth DU.