Fframwaith Gwaith Eiddo

Mae Fframwaith Gwaith Eiddo yn dechrau ar 1 Tachwedd 2024, hyd 31 Hydref 2027, gydag opsiwn i ymestyn am flwyddyn arall. Bydd y trefniant hwn yn cymryd lle'r Fframwaith Mân Waith presennol.

Mae'r Fframwaith yn cynnwys ystod o lotiau yn ôl gwerth a lotiau daearyddol ar gyfer gwaith eiddo ar dai ac eiddo nad ydynt yn dai yn amrywio o waith ymatebol, gwaith adeiladu bach, gwaith cynlluniedig, eiddo gwag, addasiadau, gosodiadau ac atgyweiriadau trydanol, cynnal a chadw Systemau Ffotofoltäig domestig (Ynni'r Haul), toi, lloriau, ffensio a lotiau sy'n benodol i fasnach (e.e. paentio ac addurno, ffenestri a drysau, glanhau a chlirio eiddo, a chyflenwi a gosod siediau).

Cyflwynwyd tendrau gan gyfanswm o 75 o gontractwyr, gyda llawer yn gwneud cais am sawl lot. Mae 50 o gontractwyr wedi llwyddo i ennill lle ar y Fframwaith newydd ac mae 47 wedi'u lleoli yng Ngorllewin Cymru (94%), ac mae 33 o'r rhain wedi'u lleoli yn Sir Gaerfyrddin (66%). Mae 2 arall wedi'u lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr (4%) ac mae un wedi'i leoli yn Henffordd (1%) ond gyda swyddfa yng Nghaerfyrddin.