Sut i dalu eich treth busnes
Diweddarwyd y dudalen ar: 19/10/2024
Rhaid talu Treth Anomestig mewn 10 rhandaliad misol o fis Ebrill, yn ddyledus ar y 15fed o bob mis neu cyn hynny. Os ydych yn dod yn gymwys i dalu Treth Anomestig yn ystod y flwyddyn bydd eich rhandaliadau'n cael eu haddasu yn ôl nifer y dyddiadau talu sy'n weddill.
Y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus i dalu yw trwy ddebyd uniongyrchol. Mae trefnu Debyd Uniongyrchol yn syml ac ni chodir tâl amdano, a gallwch ei ganslo ar unrhyw adeg trwy ysgrifennu at eich banc neu gymdeithas adeiladu.
- Rhaid sefydlu'ch Debyd Uniongyrchol i'w gymryd ar neu cyn y 15fed o'r mis.
- Nid oes yn rhaid i chi adnewyddu eich Debyd Uniongyrchol bob blwyddyn.
- Mae Debyd Uniongyrchol yn cael ei warantu gan y banciau a'r cymdeithasau adeiladu dan sylw ac felly os oes camgymeriad yn cael ei wneud byddwch yn cael ad-daliad llawn yn syth.
Byddwch yn derbyn llythyr yn nodi symiau, dyddiadau ac amlder y taliadau a fydd yn cael eu tynnu o'ch cyfrif ac o unrhyw newidiadau 10 diwrnod ymlaen llawn, er mwyn rhoi amser i chi wneud ymholiadau yn eu cylch os oes angen.
Os yw manylion y taliadau'n newid, bydd rhaid llanw ffurflen newydd Debyd Uniongyrchol i fewn ac mae'r newidiadau y cytunwch iddynt yn cael eu gwneud yn syth.
Gallwch chi sefydlu'ch Debyd Uniongyrchol dros y ffôn ar 01554 742330.
Gallwch hefyd agraffu'r ffurflen debyd uniongyrchol, cwblhewch yr holl adrannau a dychwelwch y ffurflen atom: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP.
Gallwch talu yn un o swyddfeydd talu'r Cyngor:
- Caerfyrddin Swyddfeydd y Cyngor, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE
- Llanelli Yr Hwb, 36 Stryd Stepney, Llanelli SA15 3TR
- Rhydaman Yr Hwb, 41 Stryd y Cei, Rhydaman, SA31 3BS
Gwnewch eich siec yn daladwy i Cyngor Sir Caerfyrddin.