Trwydded gweithredwr hurio preifat
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/08/2025
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu derbyn archebion ymlaen llaw i gludo teithwyr mewn cerbydau hurio preifat fod wedi'i drwyddedu gyda ni. Fel arfer, cyflwynir y ceisiadau cyn pen un diwrnod, oni bai bod angen cyfeirio'r cais at ein pwyllgor trwyddedu.
Cyn cyflwyno eich cais, fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i drafod eich cynigion. Rydym hefyd yn eich cynghori chi i ddarllen ein hamodau trwyddedu ar gyfer gweithredwyr cerbydau hurio preifat.
Gallwch anfon ceisiadau atom yn y post, fodd bynnag rydym yn eich annog i gyflwyno eich ceisiadau yn bersonol yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid. Bydd angen ichi ddarparu'r eitemau canlynol:
- Ffurflen gais wedi'i chwblhau (gyda'r holl adrannau wedi'u cwblhau)
- Ffi ar gyfer y cais