Trwydded sŵ

Os ydych chi am weithredu sŵ, bydd rhaid i chi wneud cais am drwydded.

Mae sŵ yn sefydliad lle mae anifeiliaid gwyllt yn cael eu cadw i'w harddangos i'r cyhoedd, ac eithrio mewn syrcas neu fel rhan o siop anifeiliaid anwes.Mae'r drwydded yn berthnasol i unrhyw sŵ lle mae'r cyhoedd yn cael mynediad drwy dalu ai peidio, am saith niwrnod neu fwy o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Mae Adran 2(3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau bod unrhyw hysbysiad o fwriad ar gael i'w archwilio'n rhad ac am ddim ar oriau rhesymol, nes bod y cais cysylltiedig yn cael ei brosesu.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ystyried sylwadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw gais gan bobl a sefydliadau a nodir yn adran 3 o'r Ddeddf. Nid oes dyletswydd i ymgynghori â'r bobl neu'r sefydliadau hyn, ond rhaid i awdurdod lleol weithredu'n rhesymol, a gall yr hyn sy'n rhesymol amrywio yn ôl yr amgylchiadau.

Mae gwefan y llywodraeth hefyd yn darparu gwybodaeth bwysig sy'n esbonio'r broses o drwyddedu sŵ.

I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau sŵ, cysylltwch â'r tîm Iechyd Anifeiliaid ar 01267 234567, neu e-bostiwch CCCAnimalHealth@sirgar.gov.uk

Gweler isod yr hysbysiadau cyfredol o fwriad ar gyfer ceisiadau sŵ newydd yn ardal Sir Gaerfyrddin.