Arddangosfa Priodas Sir Gaerfyrddin

Digwyddiad busnes-i-fusnes nodedig i ddathlu diwydiant priodas Sir Gâr.

Os ydych chi'n rheolwr lleoliad neu'n ddarparwr llety sy'n cynnal priodasau neu bartïon priodas, dyma'r digwyddiad i chi. Bydd cyfle i chi gael sgwrs â'r cyflenwyr gorau, mynychu gweithdai ymarferol, a chwrdd â swyddogion y cyngor yn y Sioe Deithiol Busnes. Archebwch eich lle heddiw i hyrwyddo eich busnes a manteisio ar farchnad briodas £6M Sir Gâr.


Gwybodaeth am y Digwyddiad

Mae priodasau yn cyfrannu tua £6 miliwn bob blwyddyn i economi Sir Gâr, gyda dros 560 o briodasau yn cael eu cynnal yn y sir bob blwyddyn a photensial cryf ar gyfer twf pellach.
Bydd Arddangosfa Priodas Sir Gaerfyrddin, a gynhelir ar 20 Ionawr 2026 yn y Tŷ Gwydr Mawr ysblennydd, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn dod â chyflenwyr, rheolwyr lleoliadau, cydlynwyr priodas, gweithwyr twristiaeth proffesiynol a chofrestryddion ynghyd ar gyfer diwrnod deinamig o rwydweithio, cydweithio a datblygu busnes. 


Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys gweithdai a seminarau ymarferol am ddim, wedi'u cynllunio i helpu busnesau i fireinio eu cynigion, gwella gwelededd, a manteisio i'r eithaf ar enw da cynyddol Sir Gâr fel cyrchfan briodas flaenllaw.

Nod yr arddangosfa yw cryfhau'r gadwyn gyflenwi priodas leol, gan sicrhau bod mwy o wariant priodas yn aros yn y sir wrth greu mwy o gyfleoedd i grewyr, lleoliadau a darparwyr gwasanaeth lleol.  

Beth i'w ddisgwyl

•    Meithrin cysylltiadau newydd a chryfhau partneriaethau presennol
•    Archwilio cyfleoedd cydweithredol i gynyddu archebion priodas
•    Cael mynediad at gyngor busnes arbenigol mewn marchnata, cyllid a datblygu

Cynhelir yn y Tŷ Gwydr Mawr

•    Cynnwys rhai o gyflenwyr priodasau gorau Sir Gâr
•    Cyfleoedd rhwydweithio diguro
•    Cwrdd â gwasanaethau cofrestru Sir Gâr

I fynychu, cofrestrwch drwy e-bostio  Hello@jr-eventgroup.co.uk 

Gweithdai a Seminarau am ddim

•    Strategaeth Cyfryngau Cymdeithasol ac Ymgysylltu – gyda Purple Dog
•    Deallusrwydd Artiffisial mewn Busnes – gyda Steve Huggett, TG Associates
•    Creu Cynnwys Fideo ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol – gyda Sgript

Cofrestrwch

Sioe Deithiol Busnes (10am–3pm)

Bydd cyfle i chi gwrdd yn uniongyrchol â swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin i gael arweiniad wedi'i deilwra ar y canlynol:
•    Trwyddedu, cynllunio a chyllido
•    Cyfleoedd grant cyfredol
•    Cymorth marchnata a thwristiaeth

Archebwch eich lle

Cofrestru i Arddangos
Gofynnir i chi ateb i arddangos erbyn 31 Rhagfyr. E-bostiwch: Hello@jr-eventgroup.co.uk