Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes Sir Gâr 2026

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd busnesau twristiaeth a lletygarwch i fynd i Sioe Deithiol Twristiaeth a Busnes yr Haf 2026. Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim, wyneb yn wyneb a'i fwriad yw cefnogi twf, annog cydweithio, a chryfhau'r economi ymwelwyr leol.

Mae twristiaeth yn cyfrannu dros £500 miliwn bob blwyddyn i economi Sir Gâr, ac felly mae hwn yn gyfle gwerthfawr i gysylltu'n uniongyrchol â gwasanaethau'r Cyngor ac ymgynghorwyr arbenigol, a hynny i gyd mewn un lle.

Manylion y Digwyddiad

Dyddiad: 30 Gorffennaf 2026
Lleoliad: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Amser y Digwyddiad: 8:30am – 4:00pm
Brecwast Busnes: 8:30am – 9:30am
Gweithdy 1: 9:45am – 11:15am
Gweithdy 2: 11:30am – 1pm
Sesiynau un-i-un: 1:30pm – 4pm

 

Beth i'w ddisgwyl

Trwy gydol y dydd bydd modd i chi gael cymorth busnes wedi'i deilwra, am ddim, gan swyddogion y Cyngor a thimau arbenigol ar draws meysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Cyfleoedd ariannu – grantiau a benthyciadau
  • Trwyddedu, cynllunio a chefnogi digwyddiadau
  • Deddfwriaeth gwastraff a mentrau amgylcheddol
  • Marchnata, ymgyrchoedd a chyfleoedd i weithio mewn partneriaeth
  • Recriwtio a chefnogi'r gweithlu (Cymunedau am Waith a Mwy)

Bydd y Tîm Twristiaeth hefyd ar gael i drafod:

  • Ymgyrchoedd a chyfleoedd marchnata sydd i ddod
  • Gweithgareddau ffilmio a hyrwyddo
  • Digwyddiadau busnes a phartneriaethau
  • Ffyrdd o gydweithio a hyrwyddo eich busnes

 

Byddwch hefyd yn cael golwg werthfawr ar themâu marchnata 2026 a'n symudiad parhaus tuag at fwy o integreiddio digidol ar draws platfformau twristiaeth a busnes.

 

Gweithdai a Sesiynau

Mae'r rhaglen eleni yn cynnwys cymysgedd o sesiynau rhwydweithio a chymorth ymarferol i'ch helpu chi i gryfhau eich presenoldeb digidol:

 

Sesiwn Rwydweithio dros Frecwast Busnes

Dechreuwch y diwrnod gyda sesiwn rwydweithio anffurfiol, yng nghwmni ein siaradwr gwadd James Owen (Stori Cymru).

Dysgwch sut i ddefnyddio sgiliau adrodd straeon pwerus i ddyrchafu eich brand a chysylltu â'r economi leol.

Y tu hwnt i bostio: Ymgysylltu'n Well drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol Sesiwn ryngweithiol 90 munud yn canolbwyntio ar greu ymagwedd strategol ac ymarferol tuag at y cyfryngau cymdeithasol.

 

Dysgwch sut i:

  • Ymgysylltu'n ystyrlon
  • Bod yn fwy amlwg
  • Datblygu arferion cynaliadwy heb bostio o hyd

 

Gweithdy Proffil Google Business

Sesiwn ymarferol sy'n cwmpasu sut i:

  • Wneud y mwyaf o'ch busnes ar Google Search a Google Maps
  • Rheoli diweddariadau'n effeithiol
  • Meithrin ymddiriedaeth trwy adolygiadau cwsmeriaid
  • Bod yn fwy amlwg trwy gamau syml, hawdd i'w gweithredu

 

Archebwch eich lle nawr 

 

Sesiynau Cymorth un-i-un (Prynhawn)

Bydd busnesau'n cael cyfle i archebu sesiynau un-i-un gyda chydweithwyr o'r Cyngor yn ogystal â'r hwyluswyr gweithdai Rebecca Callaghan (Purple Dog) a Jordan Wilcox (Ranked & Ready). Bydd y sesiynau hyn yn cynnig cyngor wedi'i deilwra, cymorth busnes a chyfleoedd i wella eich presenoldeb ar-lein a'ch effeithiolrwydd marchnata a byddant yn eich helpu i wella'r canlynol ar unwaith:

  • Eich perfformiad cyfryngau cymdeithasol
  • Eich Proffil Google Business

 

Pam y dylech chi ddod i'r digwyddiad?

Mae'r sioe deithiol hon yn gyfle unigryw i gael amrywiaeth eang o gyngor arbenigol mewn un lle ac arbed amser wrth wneud hynny.

P'un a ydych chi'n fusnes sefydledig neu newydd ddechrau, byddwch chi'n gadael gyda dealltwriaeth ymarferol, cysylltiadau newydd, a'r camau nesaf clir i helpu i dyfu eich busnes.

 

Gwybodaeth archebu

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond rhaid archebu pob sesiwn un-i-un ymlaen llaw a sicrhau tocynnau i'r gweithdai trwy eventbrite.

Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'i ariannu drwy Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Archebwch eich lle nawr