Cefnogi Twristiaeth
ar draws ardaloedd gwledig Sir Gâr
Marchnata Cyrchfannau
O gynllunio i briffyrdd, i redeg parciau gwledig a chanolfannau hamdden, rydyn ni'n brif randdeiliaid o ran yr hyn a gynigir i ymwelwyr yn y Sir. Rydyn ni hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r Sir fel cyrchfan i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn gan ddarparu gweithgareddau marchnata i gefnogi gweithgarwch Croeso Cymru, Croeso Prydain a gweithredwyr annibynnol.
Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae ein gwaith wedi cynhyrchu dros £2 filiwn mewn gwerth hysbysebu yn y cyfryngau, gan gyrraedd cynulleidfa o tua 100 miliwn. Roedd ein hymgyrch ddiweddar 25-26, Miri'r Merched wedi cynnwys dros 70 o bartneriaid lleol, erthyglau tudalen lawn ym mhapurau newydd y Guardian a'r Daily Mail a hysbysebion digidol yn cyrraedd 4 miliwn o bobl.
Ein nodau marchnata yw cael mwy o bobl i 1) ymweld, 2) aros yn hirach a 3) gwario mwy yn lleol. Mae ein hadnoddau ein hunain wedi cael hwb yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy ennill cyllid allanol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a thrwy weithio gyda rhanddeiliaid mawr fel CADW a GWR.

Camau gweithredu ar gyfer 2026-2027
Gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Twf Lleol Llywodraeth y DU, bydd ein tîm datblygu twristiaeth yn targedu'r rhai sydd â diddordeb mewn aros dros nos, sy'n mwynhau bwyd a diod o safon mewn ardal ddiwylliannol gyfoethog a naturiol brydferth. Byddant yn mwynhau'r awyr agored gwych ac yn debygol o fod yn gallu cyrraedd mewn 3.5 awr drwy yrru.
Byddwn yn hyrwyddo profiadau newydd a'r bobl y tu ôl iddynt gan roi cyfle i ni arddangos yr amrywiaeth, y dilysrwydd a'r croeso cyfeillgar y mae ymwelwyr yn eu derbyn yn ogystal ag unrhyw weithgareddau sydd ar y gweill. Byddwn yn gwneud y gorau o ddyddiadau blynyddol sefydledig fel gwyliau ysgol, Calan Gaeaf, Nadolig, addunedau Blwyddyn Newydd a Sant Ffolant yn ogystal â'r rôl y mae ein llysgenhadon twristiaeth yn ei chwarae ar draws y gymuned.
Bydd y gwaith marchnata yn cynnwys hysbysebion digidol, cysylltiadau cyhoeddus yn ogystal â chydweithio â dylanwadwyr a microgrëwyr y mae eu cynulleidfaoedd yn cyd-fynd â'n brand.
Byddwn hefyd yn cynorthwyo darparwyr llety trwy ddarparu delweddau, fideos, testun a graffeg o ansawdd uchel sy'n barod i'w defnyddio ac sy'n benodol i'r tymor, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at y newyddion diweddaraf a'r hyn sy'n digwydd i ddenu gwesteion.

Camau Nesaf - Sut y gallwch fod yn rhan o hyn
• Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru ar gyfer ein llythyr newyddion twristiaeth misol
• Cofrestrwch ar gyfer hysbyseb am ddim ar ein gwefan poblogaidd (gwefan dwristiaeth fwyaf poblogaidd y sir, sy'n denu hyd at 1 miliwn o ymweliadau y dydd
• Dewch i un o'n gweithdai ar-lein misol newydd ar gyfer y sectorau llety ac atyniadau/pethau i'w gwneud
• Rhowch wybod i ni os ydych chi'n cynnig rhywbeth newydd a gwahanol ar gyfer yr Hydref wedi'i anelu at gyplau sy'n 1) mynd ar wyliau gyda'u ci a 2) eisiau ymarfer corff yn y dydd a chael pryd o fwyd gyda'r nos drwy gael profiad lletygarwch o safon
• Rhowch wybod i ni os ydych chi'n trefnu unrhyw beth cyffrous yn ystod gwyliau ysgol yn yr haf a mis Hydref (Cerdded, beicio, llwybrau, digwyddiadau)
Os hoffech chi gymryd rhan neu gael gwybod mwy am sut y gallwn weithio gyda'n gilydd, cysylltwch ag Elinos neu Sarah twristiaeth@sirgar.gov.uk