Y Gronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant

Cyfanswm y gronfa – £1,000,000 cyfalaf

Isafswm dyfarniad grant – £25,000

Uchafswm dyfarniad grant – £100,000

 

Mae Cronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant yn grant cyfalaf a gynlluniwyd i gefnogi mentrau diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth sy’n cyfrannu at dwf economaidd yn Sir Gaerfyrddin. 

Caiff y Gronfa ei hariannu drwy Gronfa Twf Lleol 2026–27, ac mae dyraniad o £1 miliwn wedi’i gadarnhau ar gyfer Sir Gaerfyrddin, a fydd yn ein galluogi i gyflawni rhai o amcanion strategol y Sir.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid tan fis Mawrth 2027.

 

Diben y Gronfa

Nod y gronfa yw cefnogi creu, ehangu neu foderneiddio asedau twristiaeth, diwylliant neu dreftadaeth sy’n gallu cefnogi twf rhanbarthol.

Bydd Cronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant gwerth £1 filiwn yn buddsoddi mewn prosiectau ar draws Sir Gaerfyrddin sy’n dathlu ac yn hyrwyddo unigrywiaeth a hunaniaeth y Sir. Bydd y gronfa’n cefnogi mentrau sy’n:

  • Gwella ansawdd a hygyrchedd cyfleusterau diwylliant, treftadaeth a thwristiaeth
  • Gwella profiad cyffredinol ymwelwyr
  • Denw mwy o ymwelwyr
  • Ymestyn y tymor twristiaeth

 

Gweithgareddau prosiect cymwys

Sylwer bod yn rhaid i bob prosiect sy’n ceisio cyllid o dan Gronfa Treftadaeth, Twristiaeth a Diwylliant gael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2027 fan bellaf.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos y mathau o brosiectau a allai fod yn gymwys. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr:

  • Gwelliannau i gyfleusterau sy’n anelu at wella profiad cyffredinol ymwelwyr
  • Adfer, gwella neu weithredu asedau treftadaeth
  • Datblygu seilwaith twristiaeth neu lwybrau
  • Gwelliannau i gyfleusterau sy’n ymestyn y tymor
  • Gwelliannau i hygyrchedd digidol ar gyfer cyfleusterau treftadaeth, twristiaeth neu ddiwylliant
  • Gwelliannau i ddehongli ac ymgysylltu
  • Seilwaith ymwelwyr hygyrch mewn safleoedd allweddol

 

Sefydliadau cymwys

  • Grwpiau Gwirfoddol a Chymunedol cyfansoddedig
  • Cyrff Cyhoeddus
  • Elusennau Cofrestredig
  • Sefydliadau nid-er-elw
  • Mentrau Cymdeithasol
  • Gall canghennau lleol o sefydliadau trydydd sector cenedlaethol wneud cais gan ddefnyddio Cyfansoddiad y rhiant-gorff
  • Gall Cynghorau Tref a Chymuned wneud cais am brosiectau sy’n ychwanegol at eu cyfrifoldebau statudol arferol ac a fydd o fudd i’r gymuned

 

Dyddiad cau ceisiadau

Cyfanswm ar gael – £1,000,000 (cyfalaf)

Agor: 15 Mai 2026

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Mehefin 2026

 

Pecyn Cais

Nodiadau canllaw
Ffurflen gais
Templed proffil ariannol

I drafod eich prosiect arfaethedig, anfonwch e-bost at: biwro@sirgar.gov.uk