Cymraeg i Fusnesau Sir Gâr

Cyrsiau Medi 2025 

Ydych chi eisiau rhoi hwb i’ch busnes yn Sir Gâr? Mae dysgu Cymraeg yn ffordd wych o gysylltu â chwsmeriaid ac o ddangos eich cefnogaeth i’r gymuned leol. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau am ddim yn cychwyn ym mis Medi 2025 (yn amodol ar niferoedd). Helpwch eich hun a’ch tîm i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. 

Mae’r holl gyrsiau yn cael eu harwain gan diwtor mewn ystafell ddosbarth ar-lein.

Canolradd    Dydd Llun     09:00 – 12:00    22 Medi 2025 – Mehefin 2026
Yn addas ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau Mynediad a Sylfaen, neu wedi cwblhau TGAU lefel A Cymraeg (ail iaith). Ar gyfer y rhai sy'n gyfarwydd gyda phrif batrymau'r Gymraeg. Mae mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando ar y lefel yma.

Canolradd    Dydd Mawrth     17:00 – 20:00    23 Medi 2025 – Mehefin 2026
Yn addas ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau Mynediad a Sylfaen, neu wedi cwblhau TGAU lefel A Cymraeg (ail iaith). Ar gyfer y rhai sy'n gyfarwydd gyda phrif batrymau'r Gymraeg. Mae mwy o ysgrifennu, darllen a gwrando ar y lefel yma.

Codi Hyder    Dydd Mercher    09:30 – 11:00     24 Medi 2025 – Rhagfyr 2025
Yn addas ar gyfer y rhai sydd yn deall y Gymraeg ond sydd am fwy o hyder i’w siarad mewn sgyrsiau bob dydd.

Cymraeg i ddechreuwyr    Dydd Mercher    17:00 – 20:00    24 Medi 2025 – Meh 2026
Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr; bydd cyfle i ddysgu siarad am bynciau pob dydd fel eich gwaith, y teulu, ffrindiau a diddordebau.

Cymraeg i ddechreuwyr    Dydd Iau    09:00 – 12:00    25 Medi 2025 – Mehefin 2026
Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr; bydd cyfle i ddysgu siarad am bynciau pob dydd fel eich gwaith, y teulu, ffrindiau a diddordebau.

Sylfaen     Dydd Gwener     09:00 – 12:00    26 Medi 2025 – Mehefin 2026
Yn addas ar gyfer pobl sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol o'r Gymraeg. Mae'r lefel yma yn adeiladu ar lefel Mynediad ac yn dysgu holl batrymau sylfaenol y Gymraeg.