Pam yr ydym wedi ymgynghori
Mae’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) yn ystyried effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2023. Mae’n ymgorffori nifer o ofynion statudol mewn un ddogfen sy’n galluogi proses fwy tryloyw a chyfannol.
Mae’r ymgynghoriad diweddaraf hwn nawr yn cynnwys yr Adendwm Safleoedd Ychwanegol ACI (Mawrth 2025) sy’n sicrhau cydymffurfiaeth weithdrefnol yn unol â’r deddfwriaeth berthnasol. Gellir dod o hyd i broses gyfan yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar ein gwefan. Mae’n cynnwys:
- Adroddiad Cwmpasu AC (Gorffennaf 2018)
- Adroddiad Cychwynnol AC (Rhagfyr 2018)
- Adroddiad AC (Ionawr 2020)
- Adroddiad ACI (Chwefror 2023)
- Adendwm ACI (Chwefror 2024)
- Adendwm Safleoedd Ychwanegol ACI (Mawrth 2025)
Darperir crynodeb annhechnegol o'r uchod hefyd.