Pam yr ydym yn ymgynghori

Wrthi’n cael ei baratoi ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2033 yn nodi fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac yn arwain twf yn Sir Gaerfyrddin (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Defnyddir Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, mae’r canllawiau yn helpu i gefnogi’r defnydd o bolisïau’r CDLl a sicrhau eu bod yn cael eu deall a’u defnyddio’n fwy effeithiol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar Rwymedigaethau Cynllunio.

Rydym yn awyddus i dderbyn adborth gan bawb sydd â diddordeb.

Sut i gymryd rhan

Gallwch gymryd rhan drwy gwblhau'r arolwg ar-lein hwn

Sylwch na ellir ymdrin â'ch sylwadau yn gyfrinachol a bydd yr holl sylwadau ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn esbonio beth rydym yn ei wneud â'ch data personol. 

Gellir gweld copïau papur o’r drafft CCA yn y HWB’s Gwasanaethau Cwsmeriaid a’r llyfrgelloedd cyhoeddus yn ystod oriau agor arferol.

Camau nesaf

Bydd adborth o’r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu i lywio datblygiad parhaus y drafft CCA, a bydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer eu hystyried ymhellach.