Pam yr ydym wedi ymgynghori

Yn cael ei baratoi ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig 2018-2033 yn nodi fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio ac yn arwain twf yn Sir Gaerfyrddin (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Defnyddir Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, mae’r canllawiau yn helpu i gefnogi’r defnydd o bolisïau’r CDLl a sicrhau eu bod yn cael eu deall a’u defnyddio’n fwy effeithiol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar Dai Fforddiadwy.

Rydym yn awyddus i dderbyn adborth gan bawb sydd â diddordeb.