Pam yr ydym yn ymgynghori

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) newydd yn Doc y Gogledd, Llanelli. Bwriad y Gorchymyn arfaethedig yw helpu i atal a lleihau gyrru niwsans, ymgynnull cerbydau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig, ac i gefnogi defnydd diogel a rhesymol o’r ardal gan drigolion, ymwelwyr, busnesau a’r gymuned ehangach.

Mae’r cynnig wedi’i lywio gan adolygiad o dystiolaeth sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â cherbydau yn ardal Doc y Gogledd, gan gynnwys adroddiadau a wnaed i Heddlu Dyfed-Powys. Mae crynodeb o’r dystiolaeth a ystyriwyd fel rhan o’r cynnig ar gael ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn.

Mae’r Cyngor yn fodlon, ar sail resymol, fod ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â cherbydau wedi digwydd, neu’n debygol o ddigwydd, o fewn yr ardal gyfyngedig arfaethedig, a bod yr ymddygiad hwn wedi cael, neu’n debygol o gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal leol.

Byddai’r GDMC arfaethedig yn cwmpasu ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â cherbydau, megis ymgynnull cerbydau mewn modd niwsans, gor-bweru peiriannau’n ddiangen, sŵn gormodol, rasio, llithro cerbydau, troelli olwynion, llosgi teiars, rhwystro, a gyrru neu reidio mewn modd sy’n achosi, neu’n debygol o achosi, niwsans, annifyrrwch, perygl, difrod neu effaith andwyol ar yr ardal.

Pe bai’r GDMC yn cael ei gyflwyno, byddai’n rhoi pwerau i’r Heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, a swyddogion awdurdodedig y Cyngor i gymryd camau gorfodi lle maent yn credu’n rhesymol bod y Gorchymyn wedi’i dorri. Gallai hyn gynnwys rhoi rhybuddion, Hysbysiadau Cosb Benodedig ac, lle bo hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur, cymryd camau gorfodi ffurfiol pellach.

Nid bwriad y GDMC arfaethedig yw atal gyrru cyfrifol, parcio cyfreithlon, mynediad arferol i’r ardal, na defnydd dilys o Doc y Gogledd. Ei ddiben yw helpu i atal a lleihau ymddygiad niwsans er mwyn sicrhau y gellir defnyddio’r ardal yn ddiogel ac yn gyfrifol gan drigolion, ymwelwyr, busnesau a’r gymuned ehangach.

 

Dogfennau Ategol

GDMC Draft

Fap Ffin y GDMC

Grynodeb o'r Dystiolaeth

Sut i gymryd rhan

Cymerwch ychydig funudau i gwblhau holiadur yr ymgynghoriad a rhannu eich barn. Mae eich ymatebion yn gwbl ddienw.

Arolwg ar-lein

Camau nesaf

Rydym am glywed barn trigolion, busnesau, ymwelwyr, ac unrhyw un sy’n defnyddio Traeth y Gogledd cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Bydd eich adborth yn helpu’r Cyngor i ddeall effaith y materion hyn ac i benderfynu a yw cyflwyno’r GDMC arfaethedig yn y dull cywir.