Pam yr ydym yn ymgynghori
Rydyn ni'n cynnal ail rownd o waith ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch gwelliannau arfaethedig ar gyfer teithio llesol yn Abergwili a dwyrain Caerfyrddin fel rhan o gynllun Teithio Llesol Caerfyrddin.
Yn dilyn y rownd gyntaf o waith ymgysylltu a gafodd ei gynnal yn gynharach eleni, mae adborth gan drigolion, cymudwyr, busnesau lleol, a rhanddeiliaid eraill wedi cael ei ddefnyddio i helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu cynigion y cynllun. Rydyn ni bellach am gyflwyno'r cynigion arfaethedig a chasglu rhagor o adborth i helpu i lunio cam nesaf y prosiect.
Rydyn ni am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd am ein cynnydd a rhoi gwybod am ein camau nesaf.
- Roedd y 'rhan ganol' o'r gyffordd â Chnwc y Gwili i'r llifddorau yn annadleuol i raddau helaeth ac mae gwaith wedi symud yn ei flaen i'w hadeiladu.
- Rydyn ni wedi diwygio cynlluniau ar gyfer y rhan ddwyreiniol, o'r llifddorau i Lwybr Dyffryn Tywi a hoffen ni rannu'r cynlluniau diwygiedig â'r trigolion, yn seiliedig ar yr adborth a ddaeth i law.
- Mae'r rhan orllewinol o drosffordd yr A40 i'r gyffordd â Chnwc y Gwili yn parhau i gael ei hadolygu ac rydyn ni'n cynnal trafodaethau ehangach â rhanddeiliaid allweddol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.
Mae'r digwyddiad ymgysylltu hwn yn cefnogi cam cyntaf cynllun 10 mlynedd o ddatblygu llwybrau teithio llesol yng Nghaerfyrddin. Mae'r cam hwn yn canolbwyntio ar wella cysylltiadau cerdded, olwyno a beicio yn Abergwili a chryfhau'r cysylltiadau rhwng Llwybr Dyffryn Tywi a chanol tref Caerfyrddin.
Sut i gymryd rhan
Rydyn ni'n eich gwahodd i fynd i sesiwn ymgysylltu wyneb yn wyneb, sy'n cael ei chynnal yn Eglwys Dewi Sant, Abergwili, rhwng 3:00pm a 6:00pm, ddydd Iau 23 Gorffennaf 2026. Yn ystod y digwyddiad, byddwch chi'n gallu gweld y cynigion diweddaraf, trafod y cynllun ag aelodau o dîm y prosiect, a rhoi eich adborth.
Bydd eich sylwadau'n helpu i gefnogi datblygiad parhaus y cynllun wrth iddo symud ymlaen drwy'r broses Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).
Os nad ydych chi'n gallu mynd i'r digwyddiad, gallwch gyflwyno adborth drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod:
Camau nesaf
Bydd yr adborth o'r ymgysylltiad yn cael ei ddefnyddio i lywio a chwblhau'r dyluniad arfaethedig ymhellach fel rhan o broses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod y seilwaith arfaethedig yn ystyrlon i gymuned Abergwili yn ogystal â'r adborth a ddarparwyd gan randdeiliaid allweddol hyd yma.
