Canllawiau cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad: Etholiadau'r Senedd 2026

Canllawiau i Gynghorwyr a Gweithwyr yn y cyfnod cyn Etholiadau'r SENEDD - 7 Mai 2026

Cyflwyniad

Cynhelir etholiadau'r Senedd ar 7 Mai 2026.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweinyddu'r etholiad ar gyfer etholaeth Sir Gaerfyrddin.

Yn ystod cyfnod etholiad, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddilyn cyfnod o sensitifrwydd cynyddol cyn yr etholiad. Fodd bynnag, nid yw'r gyfraith mewn perthynas â'r mater hwn yn atal y Cyngor rhag cyflawni ei swyddogaethau arferol a all barhau.

Drwy gydol y cyfnod perthnasol, rhaid i'r Cyngor sicrhau nad oes unrhyw gamau yn cael eu cymryd a allai'n rhesymol arwain at y canfyddiad bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio i gefnogi unrhyw blaid wleidyddol neu ymgeisydd unigol a allai ddylanwadu ar ganlyniad yr etholiad.

Pwrpas y canllawiau hyn yw rhoi cyngor allweddol ar y cyfyngiadau o ran cyhoeddusrwydd sy'n berthnasol i holl aelodau'r Cyngor, gweithwyr a chontractwyr y Cyngor.

Bydd y cyfnod cyn yr etholiad yn dechrau ar 23 Mawrth 2026.