Canllawiau cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad: Etholiadau'r Senedd 2026

Canllawiau i Gynghorwyr a Gweithwyr yn y cyfnod cyn Etholiadau'r SENEDD - 7 Mai 2026

Beth mae hawl i'r cyngor ei wneud?

Mae hawl i'r Cyngor wneud y canlynol:

  1. Parhau i gyflawni busnes arferol y Cyngor (gan gynnwys ymgynghoriadau ar y gyllideb neu benderfynu ar geisiadau cynllunio a thrwyddedu, hyd yn oed os ydynt yn ddadleuol).
  2. Mae cyhoeddi hysbysiadau i'r wasg a gwybodaeth ynghylch cynnal pleidleisiau wedi'i eithrio o'r cyfyngiadau hyn, yn ogystal â darparu ymatebion ffeithiol i geisiadau penodol am wybodaeth, er enghraifft, gwybodaeth am sut y gall pobl gofrestru i bleidleisio.
  3. Gall cynghorau hefyd gyhoeddi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r etholiad ac sy’n addysgiadol neu'n ffeithiol yn unig, fel dyddiad yr etholiad, sut i gael pleidlais drwy'r post a lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Fodd bynnag, rhaid i'r holl wybodaeth ffeithiol sy'n ymwneud ag etholiad gael ei chyhoeddi ar y ffurf a bennir gan y ddeddfwriaeth berthnasol neu yn y fath fodd nad yw'n rhoi amlygrwydd i wybodaeth sy'n ymwneud ag unrhyw ymgeisydd, ymgeiswyr neu blaid wleidyddol. Gall awdurdodau eraill gyfeirio at y deunydd hwn ar eu gwefannau eu hunain.
  4. Mae hefyd yn dderbyniol fod y Cyngor yn ymateb dan amgylchiadau priodol i ddigwyddiadau ac ymholiadau dilys ynghylch gwasanaethau ar yr amod bod ei atebion yn rhai ffeithiol nad ydynt yn ffafrio plaid wleidyddol. Dylai aelodau sy’n dal swyddi gwleidyddol neu ddinesig allweddol gael gwneud sylwadau mewn argyfwng neu pan fo gwir angen ymateb i ddigwyddiad pwysig sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod. Ni ddylai unrhyw ddigwyddiadau rhagweithiol a drefnir yn y cyfnod hwn gynnwys aelodau sy’n debygol o fod yn sefyll etholiad.
  5. Caiff y Cyngor gyhoeddi gwybodaeth ffeithiol am ymgeiswyr os gofynnir iddo wneud hynny gan y Swyddog Canlyniadau Etholaethol perthnasol neu i wrthweithio gwybodaeth gamarweiniol, ddadleuol neu eithafol (er enghraifft, gwybodaeth hiliol/rywiaethol).
  6. Gall ymgeiswyr a/neu bleidiau gwleidyddol ryddhau eu datganiadau eu hunain i’r wasg neu gyhoeddi gwybodaeth gyhoeddus yn gyfreithlon. Dylai fod yn glir fod y rhain yn cynrychioli barn yr ymgeiswyr/pleidiau unigol hynny ac nid barn y Cyngor.

Mae'n hanfodol y byddai unrhyw benderfyniad a wneir yn cael ei ystyried yn deg ac yn rhesymol gan y cyhoedd a'r rheiny sy'n sefyll yn yr etholiad.

Os oes unrhyw amheuaeth, gofynnwch am gyngor gan y Swyddog Canlyniadau Etholaethol a/neu'r Swyddog Monitro, neu gydweithwyr yn y timau cyfreithiol neu gyfathrebu.

 

Wendy Walters Swyddog Canlyniadau Etholaetholr WSWalters@carmarthenshire.gov.uk
Steve Murphy Pennaeth y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil / Swyddog Monitro spmurphy@carmarthenshire.gov.uk
Caio Higginson Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau CSHigginson@carmarthenshire.gov.uk
Gaynor Morgan Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol gmorgan@carmarthenshire.gov.uk
Shelley Williams Rheolwr y Gwasanaethau Cofrestru Etholiadol ShWilliams@carmarthenshire.gov.uk
Becki Thomas Cyfreithiwr Etholiadau ReThomas@carmarthenshire.gov.uk