Canllawiau cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad: Etholiadau'r Senedd 2026
Canllawiau i Gynghorwyr a Gweithwyr yn y cyfnod cyn Etholiadau'r SENEDD - 7 Mai 2026
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- Deddfwriaeth a Chanllawiau Statudol
- Canllawiau cyn yr etholiad
- Ymgyrchoedd ac ymgynghoriadau
Canllawiau cyn yr etholiad
Wrth arfer swyddogaethau gwneud penderfyniadau, rhaid i'r Cyngor roi ystyriaeth briodol i'r egwyddorion canlynol:
- Yn ystod cyfnod yr etholiad, mae angen i'r Cyngor sicrhau ei fod yn ddiduedd a dylai ymdrechu i gymryd safiad niwtral.
- Ni ddylai'r Cyngor roi amlygrwydd na chyhoeddusrwydd i unrhyw ymgeisydd, plaid wleidyddol neu fater sy'n wleidyddol ddadleuol. Felly, yn ystod y cyfnod hwn, mae angen cymryd gofal ynglŷn â materion a gyflwynir i'r Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau neu faterion sy'n cael sylw'r cyhoedd ac a welir fel rhai sy'n gysylltiedig ag ymgeiswyr unigol neu blaid wleidyddol.
- Mae'r hyn sy'n fater dadleuol yn dibynnu i ryw raddau ar yr amgylchiadau lleol ond, yn gyffredinol, mae'n debygol o fod â nodweddion fel y canlynol, ond nid y rhain yn unig:
- rhannu barn y cyhoedd yn sylweddol,
- cyfnodau hir o ddadlau proffil uchel a diddordeb gan y wasg a/neu faterion sy’n ymwneud â dyfarnu cyllid neu gontractau sylweddol
Mae gan y Swyddog Canlyniadau Etholaethol yr awdurdod terfynol i benderfynu a yw mater yn ddadleuol. Yn unol â hynny, dylai unrhyw fater yr ystyrir y gallai fod yn ddadleuol gael ei gyfeirio at y Swyddog Canlyniadau Etholaethol gan y Cyfarwyddwr perthnasol.
- Dylai'r Cyngor osgoi cyhoeddi unrhyw gyhoeddusrwydd neu wneud unrhyw beth neu ddweud unrhyw beth y gellid tybio ei fod yn ceisio dylanwadu ar bleidleiswyr. Enghraifft o hyn fyddai hyrwyddo ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol, fel cyfeirio at ymgeiswyr unigol neu bleidiau mewn datganiadau i'r wasg. Yr eithriad i hyn yw lle mae deddfwriaeth neu reoliad yn gofyn am gyhoeddi gwybodaeth.
- Ni ddylai cyhoeddusrwydd y Cyngor a/neu unrhyw ymgynghoriadau ac ymgysylltu ymdrin â materion dadleuol neu wleidyddol sensitif yn lleol neu'n genedlaethol a, lle nad oes,amserlen statudol yn berthnasol, dylid ystyried a ddylid trefnu'r gweithgarwch y tu allan i'r cyfnod cyn yr etholiad.
- Ni ddylai'r Cyngor roi sylw i safbwyntiau, cynigion neu argymhellion mewn modd sy’n ei uniaethu ag unrhyw bleidiau gwleidyddol a/neu ymgeisydd unigol a allai gael mantais etholiadol o ganlyniad i hynny.
- Dylid cyflwyno unrhyw gyhoeddusrwydd sy'n ymwneud â pholisïau neu gynigion y Llywodraeth ganolog mewn modd cytbwys a ffeithiol gywir.
- Ni ddylai'r Cyngor gynnal gweithgareddau, trefnu unrhyw ddigwyddiadau rhagweithiol gyda'r cyfryngau sy'n cynnwys ymgeiswyr, na gwneud unrhyw gyhoeddiadau neu benderfyniadau sy’n rhoi mantais etholiadol i ymgeisydd penodol neu blaid wleidyddol neu y gellid dod i’r casgliad eu bod yn gwneud hynny.
- Ni ddylid rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a phrosiectau sy'n cael eu hariannu gan gyllid grant y Llywodraeth yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Os ydych yn ansicr, siaradwch â’r Cyfarwyddwr perthnasol, y Swyddog Canlyniadau Etholaethol a/neu’r Swyddog Monitro/Rheolwr Marchnata a’r Cyfryngau.
- Dylai llythyron neu negeseuon e-bost gan bob ymgeisydd gael eu trin yn gyfartal ac ni ddylid defnyddio cyfleusterau'r Cyngor ar gyfer argraffu, cyfieithu a/neu bostio deunydd cyhoeddusrwydd yr ymgeiswyr.
Mae Cod Ymddygiad yr Aelodau yn nodi na ddylai’r aelodau ddefnyddio adnoddau'r Cyngor at ddibenion gwleidyddol. Dylai unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a ddarperir neu y mae aelodau etholedig yn gofyn amdanynt, gan gynnwys ceisiadau am wybodaeth gan swyddogion, gael eu defnyddio at ddibenion busnes y Cyngor yn unig neu i alluogi'r Aelod dan sylw i gyflawni ei swyddogaeth fel cynghorydd.
- Rhaid i weithwyr beidio â darparu briffiau i'w defnyddio mewn dadleuon ymgyrchu/llenyddiaeth a deunydd cyhoeddusrwydd yr etholiad sy'n ymwneud ag ymgeiswyr unigol neu blaid wleidyddol.
- Yn ystod cyfnod yr etholiad, dylid osgoi cyfarfodydd gydag ymgeiswyr, oni bai eu bod yn gyfarfodydd rheolaidd (er enghraifft, cyfarfod corff partneriaeth) y mae’r unigolion dan sylw yn cymryd rhan ynddynt fel arfer. Dylai swyddogion beidio â gwahodd ymgeiswyr, unigolion sy'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol, neu unrhyw aelodau etholedig i gyfarfodydd, cynadleddau, agoriadau neu ddigwyddiadau lansio yn ystod cyfnod yr etholiad.
- Ni ddylid arddangos posteri neu sticeri ar gyfer unrhyw blaid wleidyddol neu/ac unrhyw ymgeiswyr, ar swyddfeydd y Cyngor, cartrefi preswyl, depos, ysgolion, cerbydau ac ati neu'r tu mewn iddynt.
- Ni chaiff ffotograffau o ymgeiswyr, unigolion sy'n gysylltiedig â phlaid wleidyddol, neu unrhyw aelodau etholedig eu rhyddhau neu'u cyhoeddi gan y Cyngor a dylid cymryd gofal i sicrhau nad yw unrhyw ffotograffau yn cynnwys y bobl uchod yn anfwriadol.
- Os gwneir cais i ddefnyddio unrhyw rai o ddelweddau'r Cyngor sy'n cynnwys ffotograffau, clipiau fideo neu unrhyw ddeunyddiau eraill o'r fath, rhaid gwneud ymholiadau ynghylch sut y cânt eu defnyddio. Ni ddylid rhoi ffotograffau na deunyddiau eraill y Cyngor i staff grwpiau gwleidyddol nac unrhyw un arall yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad oni bai bod hynny wedi'i wirio a bod cytundeb wedi'i roi na fyddant yn cael eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu.
- Ni ddylid cynnal digwyddiadau'r Cyngor ar safleoedd pleidiau gwleidyddol ar unrhyw adeg.
- Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i geisiadau penodol i hwyluso ymweliadau â safleoedd neu leoliadau sy'n eiddo i'r Cyngor gan ymgeiswyr posibl neu unigolion sy'n gysylltiedig â phleidiau gwleidyddol. Gan fod ymweliadau o'r fath yn tueddu i fod yn gysylltiedig â chyfleoedd am luniau a chyhoeddusrwydd yn y wasg, gall ymddangos i'r cyhoedd fel pe baent wedi’u bwriadu i hyrwyddo ymgeisydd neu ei blaid.
Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a chysondeb, bydd pob cais am ymweliadau neu am ddefnyddio safleoedd gan ymgeiswyr etholiad tebygol, eu hasiantau, personoliaethau gwleidyddol neu bleidiau gwleidyddol yn cael eu cyfeirio at y Pwynt Cyswllt Unigol dynodedig:
Shelley Williams, Rheolwr Gwasanaethau Etholiadol, gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk
Ni ddylid cytuno i unrhyw ddefnydd heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Pwynt Cyswllt Unigol.
Bydd penderfyniad ar geisiadau o'r fath yn cael ei wneud gan y Pwynt Cyswllt Unigol yn unol â'r egwyddorion a nodir yn y canllawiau hyn. Bydd y Pwynt Cyswllt Unigol yn hysbysu'r person a wnaeth y cais o'r penderfyniad, ar ôl gofyn am gyngor gan y Prif Weithredwr (fel Swyddog Canlyniadau Etholaethol) os yw'n briodol. Os yw’r sefyllfa yn parhau i fod yn aneglur, gofynnir am gyngor y Swyddog Monitro.
- Efallai y bydd angen atal cynnal deunyddiau a gynhyrchir gan drydydd partïon, neu gau fforymau cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn er mwyn osgoi torri cyfyngiadau cyfreithiol.
- Mae cynghorau hefyd wedi'u gwahardd rhag rhoi cymorth ariannol neu gymorth arall i gyrff eraill i'w galluogi i gyhoeddi deunydd na all yr awdurdod ei hun ei gyhoeddi.
- Ni ddylai'r awdurdod lleol gynorthwyo gydag ymweliadau gwleidyddol cenedlaethol neu leol (rhaid iddynt gael eu trefnu gan y pleidiau gwleidyddol heb unrhyw oblygiadau o ran costau nac adnoddau i'r awdurdod lleol).
