Canllawiau cyhoeddusrwydd cyn yr etholiad: Etholiadau'r Senedd 2026

Canllawiau i Gynghorwyr a Gweithwyr yn y cyfnod cyn Etholiadau'r SENEDD - 7 Mai 2026

Y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r canllawiau cyn yr etholiad yn berthnasol i bob platfform cyfryngau cymdeithasol a weithredir gan y Cyngor.

  1. Mae angen i bawb gymryd gofal arbennig mewn perthynas â defnyddio'r holl blatfformau cyfryngau cymdeithasol megis X (Twitter), Facebook, Instagram, Tik Tok. Mae hyn yn cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i bostio ac ymateb. Dylai golygyddion cyfryngau cymdeithasol corfforaethol gyfeirio at y Polisi Cyfryngau Cymdeithasol i gael arweiniad pellach ynghylch y defnydd o gyfryngau cymdeithasol corfforaethol.
  2. Yn unol â phrotocol y wasg a'r cyfryngau sydd gan y Cyngor, dylai pob cyswllt â'r wasg fod drwy'r tîm Marchnata a'r Cyfryngau. Bydd unrhyw ddatganiadau gan y Cyngor y mae angen eu cyhoeddi yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu priodoli i uwch-swyddog a enwir neu, mewn argyfwng, yr Aelod Cabinet perthnasol.
  3. Wrth ddefnyddio X, Facebook, Instagram, LinkedIn, YouTube neu blatfformau eraill, mae swyddogion yn cael eu llywodraethu gan y canllawiau ar y cyfnod cyn yr etholiad a’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol.
  4. Ni ddylid rhannu neu ail-drydar barn wleidyddol a bostiwyd gan bleidiau gwleidyddol neu wleidyddion na delweddau, diweddariadau neu gynnwys gwleidyddol ddadleuol.
  5. Dylid dileu unrhyw gynnwys gwleidyddol ddadleuol ar unwaith o blatfformau cyfryngau cymdeithasol awdurdodau lleol a dylid monitro hyn yn rheolaidd.
  6. Gwaherddir swyddogion sy'n dal swyddi dan gyfyngiad gwleidyddol, neu sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r etholiadau, rhag ymgymryd â gweithgareddau gwleidyddol naill ai yn y gweithle neu'r tu allan i'r gweithle. Ni ddylent gyhoeddi deunydd na chymryd rhan mewn dadl wleidyddol weithredol nac ail-drydar neu gyhoeddi cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol a allai effeithio ar gefnogaeth i blaid wleidyddol.