Gweld y Gofrestr Etholiadol
Diweddarwyd y dudalen ar: 17/11/2025
Mae modd edrych ar y gofrestr etholiadol o dan oruchwyliaeth ac mae'n cynnwys enwau pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn ardal Sir Gaerfyrddin.
Gellir gweld y gofrestr bresennol yn:
Archifdy Sir Gâr yn Llyfrgell Caerfyrddin
9 Heol San Pedr
Caerfyrddin
SA31 1LN
Penodiadau
Bydd mynediad i'r archifau drwy apwyntiad yn unig. I drefnu apwyntiad, dylai cwsmeriaid anfon e-bost at: archifau@sirgar.gov.uk neu ffonio: 01267 228232.
Yn ogystal, bydd angen iddynt gofrestru i gael Cerdyn Archifau cyn ymweld. Gweler: https://www.archivescard.com/ARA
I weld yr oriau agor, defnyddiwch y ddolen ganlynol:
www.sirgar.llyw.cymru/archifausirgaerfyrddin
www.carmarthenshire.gov.wales/carmarthenshirearchives
Bydd angen i chi ddarparu eich manylion a'r cyfeiriad/cyfeiriadau/cofrestr rydych am eu gweld.
Cofiwch:
- dim ond drwy wneud nodiadau ysgrifenedig y gellir copïo'r gofrestr. Ni chaniateir llungopïo na chofnodi electronig yn ôl y gyfraith
- ni ddylid defnyddio gwybodaeth a gymerir o'r gofrestr lawn at ddibenion masnachol, oni bai bod y wybodaeth hefyd wedi'i chyhoeddi yn y fersiwn agored o'r gofrestr

