Gall staff gorsafoedd pleidleisio hefyd ddarparu cymhorthion fel y canlynol i helpu pleidleiswyr: 

  • Côd QR i fersiwn sain o bapurau pleidleisio
  • Fersiynau print bras o bapurau pleidleisio
  • Cymhorthion gweledol
  • Pensiliau mawr
  • Gripiau pensil ar gyfer pennau ysgrifennu neu bensiliau wrth farcio'r papur pleidleisio 
  • Chwyddwydrau, i alluogi etholwr i chwyddo unrhyw ran o'r papur pleidleisio
  • Dyfeisiau pleidleisio cyffyrddadwy, i alluogi pleidleiswyr dall i farcio eu papurau pleidleisio yn annibynnol.

Gallwch ddefnyddio unrhyw offer neu apiau arbenigol yn yr orsaf bleidleisio fydd yn eich cynorthwyo i fwrw eich pleidlais yn annibynnol. Er enghraifft, apiau lleferydd neu chwyddwydrau fideo tortsh i'ch helpu i ddarllen y papur pleidleisio.

 

Cymorth Pellach yn yr Orsaf Bleidleisio

Gallwch ddod â rhywun gyda chi i'ch cynorthwyo pan fyddwch chi'n pleidleisio ond mae'n rhaid bod y person dros 16 oed ar y diwrnod pleidleisio. 

Os oes angen cymorth arnoch yn yr orsaf bleidleisio, gofynnwch i aelod o staff a fydd yn hapus i helpu. Bydd holl staff y gorsafoedd pleidleisio yn cael eu hyfforddi i wneud yn siŵr bod ganddynt well dealltwriaeth o anghenion pleidleiswyr yn Sir Gaerfyrddin.

Yr hyn y gall pobl eraill ei wneud:

  • Eich helpu i symud o amgylch yn yr orsaf bleidleisio 
  • Darllen enwau'r ymgeiswyr a'r pleidiau ar y papur pleidleisio mewn trefn
  • Egluro'r dewisiadau pleidleisio i chi 
  • Defnyddio eu gwybodaeth am eich dulliau cyfathrebu i ddeall dros bwy rydych chi am bleidleisio
  • Dod i mewn i'r bwth pleidleisio gyda chi 
  • Marcio eich penderfyniad ar y papur pleidleisio os ydych yn caniatáu iddynt wneud hynny

Yr hyn na all pobl eraill ei wneud:

  • Gwneud penderfyniadau ar eich rhan ynghylch dros bwy ddylech bleidleisio
  • Marcio'r papur pleidleisio yn groes i'ch dymuniad
  • Eich atal rhag pleidleisio oherwydd bod gennych anabledd neu oherwydd bod angen cymorth ychwanegol arnoch. 

 

Ffurflenni Pleidleisio drwy'r Post neu Bleidleisio drwy Ddirprwy

Os na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad gallwch: 

  • Pleidleisio trwy'r post neu 
  • Penodi dirprwy. Gall pleidleiswyr ag anabledd gael pleidlais drwy ddirprwy yn barhaol (lle rydych yn penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio). 

Mae canllawiau a ffurflenni cais ar gyfer Pleidleisio drwy'r Post a Phleidleisio drwy Ddirprwy ar gael i'w lawrlwytho o wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bost yn GwasanaethauEtholiadol@sirgar.gov.uk neu dros y ffôn ar 01267 228889.

 

Gofyn am gymorth ychwanegol

Os ydych chi'n bleidleisiwr anabl ac angen cymorth ychwanegol sydd heb gael ei restru, gallwch gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol drwy e-bost GwasanaethauEtholiadol@sirgar.gov.uk neu dros y ffôn ar 01267 228889 i weld sut arall y gallwn ni helpu.

 

Carden Wybodaeth Gorsaf Bleidleisio 

Ffurflen gallwch ei llenwi cyn mynd i'r orsaf bleidleisio yw'r Garden Wybodaeth Gorsaf Bleidleisio. Gallwch ei hanfon atom drwy'r post neu'r e-bost cyn y diwrnod pleidleisio neu fynd â hi gyda chi i'r orsaf bleidleisio a'i rhoi i'r staff pan fyddwch chi'n cyrraedd. 

Bydd yn helpu staff gorsafoedd pleidleisio i ddeall unrhyw gymorth neu addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch i'ch helpu i bleidleisio. 

Gallwch wneud cais am Garden Wybodaeth Gorsaf Bleidleisio drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol drwy'r e-bost GwasanaethauEtholiadol@sirgar.gov.uk, dros y ffôn ar 01267 228889 neu trwy lawrlwytho'r carden wybodaeth.

Lawrlwytho Carden wybodaeth gorsaf bleidleisio