Recriwtio ar gyfer etholiadau
Diweddarwyd y dudalen ar: 21/11/2025
Mae Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn am geisiadau o ddiddordeb gan aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno bod yn rhan o gronfa o staff etholiadol achlysurol ac sydd am gael eu hystyried ar gyfer gwaith etholiadol achlysurol.
Rôl a dyletswyddau:
Mae'r rolau'n cynnwys gweithio yn un o'r gorsafoedd pleidleisio niferus ledled y Sir fel Swyddog Llywyddu neu Glerc Pleidleisio, gweithio fel cynorthwyydd cyfrif yn didoli, dilysu a chyfrif pleidleisiau ar ôl yr etholiad.
Mae'r holl staff yn cael eu penodi a'u cyflogi gan y Swyddog Canlyniadau nid Cyngor Sir Caerfyrddin ac felly nid yw polisïau a gweithdrefnau recriwtio arferol y cyngor yn berthnasol i'r swyddi dros dro hyn.
Rydym yn adolygu ein ffioedd ar hyn o bryd, a bydd y rhain yn cael eu diweddaru'n fuan.
Gofynion:
Rydym yn chwilio am unigolion cyfeillgar a phroffesiynol gyda'r cymwyseddau canlynol:
- Sgiliau pobl / cyfathrebu da
- Y gallu i beidio â chynhyrfu
- Yn rhoi sylw i fanylion ac yn deall pwysigrwydd cywirdeb
- Trin eraill yn ddiduedd gyda pharch
- Bod yn barod i fynychu'r holl hyfforddiant a ddarperir
Yn ogystal â'r uchod, mae'n rhaid i holl staff yr etholiad fodloni’r meini prawf canlynol:
- Bod yn 18 oed o leiaf
- Bod â hawl i weithio yn y DU (yn unol â darpariaethau Deddf Lloches a Mewnfudo 1996) a rhaid i chi ddarparu prawf o'r hawl i weithio yn y DU gyda'r dystiolaeth ofynnol wrth gyflwyno cais.
- Ddim yn gweithio ar ran ymgeisydd yn ystod ymgyrch etholiad
- Rhaid i staff y gorsafoedd pleidleisio a'r cyfrif gydsynio i weithio mwy na'r oriau gwaith arferol y darperir ar eu cyfer gan y gyfarwyddeb oriau gwaith
Os ydych yn bodloni'r meini prawf uchod ac os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Etholiadau'r Senedd 2026
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dechrau paratoi ar gyfer etholiadau'r Senedd a gynhelir ar 7 Mai 2026.
Mae staff y gorsafoedd pleidleisio yn cael eu recriwtio a'u penodi gan y Swyddog Canlyniadau. Ar hyn o bryd rydym yn ceisio diddordeb gan staff.
Yr oriau pleidleisio yw 7am i 10pm. Mae angen i staff gyrraedd yr orsaf bleidleisio am 6.15am fan hwyraf i baratoi a bod yno i gau'r orsaf bleidleisio ar ddiwedd y bleidlais. Bydd gan bob gorsaf bleidleisio Swyddog Llywyddu a fydd yn gyfrifol am redeg yr orsaf bleidleisio yn gyffredinol, ac o leiaf un Clerc Pleidleisio. Mae sesiwn hyfforddi ar-lein yn rhan orfodol o'ch penodiad, ond byddwch yn gallu gwneud hyn yn eich amser eich hun.
Prif ddyletswyddau staff y gorsafoedd pleidleisio yw:
- Bod yn ddiduedd bob amser
- Casglu'r blwch pleidleisio a sicrhau ei fod yn ddiogel tan y diwrnod pleidleisio (Swyddogion Llywyddu yn unig)
- Deall unrhyw ofynion newydd y rôl a newidiadau o ran deddfwriaeth.
- Rhoi cymorth i bleidleiswyr pan fydd yn briodol
- Cynorthwyo o ran trefnu'r orsaf bleidleisio a pharatoi ar gyfer agor y bleidlais
- Gwirio a yw pleidleiswyr yn gymwys i bleidleisio
- Rhoi papurau pleidleisio i bleidleiswyr
- Gwirio a nodi rhif pob pleidleisiwr yn y Gofrestr Etholwyr
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant gorfodol ar-lein a gweithredu'r canllawiau a'r cyfarwyddiadau a ddarperir
Tâl - Nid yw'r taliadau wedi'u pennu eto, ond bydd deiliaid y swyddi yn cael oddeutu:
- Swyddogion Llywyddu: £351 ynghyd â £35 am gwblhau sesiwn hyfforddi ar-lein
- Clerc Pleidleisio: £238 ynghyd â £35 am gwblhau sesiwn hyfforddi ar-lein
Bydd treth yn cael ei thynnu o'r taliadau.
Bydd penodiadau yn cael eu gwneud hyd y gellir ar sail y cyntaf i'r felin ond bydd hefyd yn ddibynnol ar yr ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin y mae unigolyn yn barod i weithio ynddynt
Hyfforddiant - Mae'n hanfodol bod holl staff y gorsafoedd pleidleisio yn cymryd rhan yn y sesiwn hyfforddi. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei roi ar-lein, a gallwch gwblhau'r hyfforddiant hwn yn eich amser eich hun.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am y naill swydd neu'r llall, cwblhewch yr e-ffurflen cyn gynted â phosibl.
Rydym bob amser yn awyddus i recriwtio staff. Os gwyddoch am unrhyw berthnasau, ffrindiau, cymdogion a allai fod â diddordeb, gofynnwch iddynt gwblhau ein e-ffurflen ar-lein.
Nodyn:
- Trafodwch â'ch rheolwr i gadarnhau eich bod ar gael cyn ateb.
- Ni fydd staff gorsafoedd pleidleisio Cyngor Sir Caerfyrddin yn gorfod defnyddio gwyliau blynyddol/hyblyg er mwyn gweithio ar ddiwrnod yr etholiad
- Bydd y penodiadau a wneir yn amodol ar eich bod yn cymryd rhan yn y sesiwn hyfforddi.
Gwybodaeth ar gyfer Cynorthwywyr Cyfrif - Bydd y broses o recriwtio'r Staff Cyfrif yn cael ei wneud ar wahân.
Anfonwch eich ymholiadau e-bost at y Gwasanaethau Etholiadol drwy ffonio 01267 228889 neu gwasanaethauetholiadol@sirgar.gov.uk
Sut i wneud cais
Gallwch fynegi eich diddordeb drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
