Canolfannau Trochi Iaith Gymraeg
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2026
Croeso cynnes!
Ydy eich plentyn yn newydd i addysg cyfrwng Cymraeg?
Yn unol â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin (CSCA), mae ysgolion y sir yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blant ddatblygu'n ddwyieithog ac elwa ar fanteision addysg Gymraeg. Er mwyn helpu eich plentyn i deimlo'n hyderus ac yn rhan lawn o fywyd yr ysgol a'r gymuned leol, mae cyfle cyffrous iddo/iddi fynychu cwrs dwys mewn Canolfan Drochi Iaith. Mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol, bydd eich plentyn yn datblygu ei sgiliau Cymraeg, yn magu hyder ac yn cael sylfaen gadarn i lwyddo yn ei addysg.
Canmolodd adroddiad arolygiad Estyn (2026) y gefnogaeth, yr addysgu a'r profiadau dysgu a ddarperir yn y Canolfannau Trochi Iaith, gan nodi bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da ac yn datblygu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn yr ysgol a thu hwnt.
Dechrau taith eich plentyn gyda'r Gymraeg
Mae ein Canolfannau Trochi Iaith yn rhoi'r gefnogaeth, yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen ar blant i lwyddo mewn addysg cyfrwng Cymraeg a mwynhau manteision dwyieithrwydd am oes.
Trefniadaeth Canolfannau Trochi Iaith Sir Gaerfyrddin
Ar hyn o bryd, mae dwy Ganolfan Drochi Iaith yn Sir Gaerfyrddin: Canolfan Gwên yn Ysgol Gymraeg Maes y Gwendraeth a Chanolfan Brianne yn Ysgol Bro Dinefwr.
Agorwyd Canolfan Gwên yn Ysgol Gymraeg Maes y Gwendraeth yn 2022. Mae'r ganolfan yn cynnwys tair ystafell: ystafell uwchradd, ystafell gynradd ac ystafell dawel. Mae'n adeilad newydd, annibynnol o'r ysgol uwchradd.
Agorwyd Canolfan Brianne yn Ysgol Bro Dinefwr ym mis Tachwedd 2025. Mae'r ganolfan wedi'i lleoli mewn ystafelloedd dosbarth sydd wedi'u haddasu'n benodol i gefnogi dysgwyr newydd-ddyfodiaid o oedran cynradd.
Mae trefniadau hefyd ar waith i adeiladu Canolfan Drochi Iaith newydd ar gyfer ardal Llanelli ar dir Ysgol Gyfun y Strade. Disgwylir i'r ganolfan fod yn barod i dderbyn dysgwyr yn ystod 2027.
Mae newydd-ddyfodiaid Blynyddoedd 2 i 6 yn mynychu'r Canolfannau Trochi Iaith am gyfnod o ddeg wythnos, gan fynychu pedwar diwrnod yr wythnos.
Bydd athrawon y Canolfannau Trochi Iaith yn ymweld â'r disgyblion newydd, eu hathrawon a'u rhieni neu warcheidwaid yn eu hysgolion cyn iddynt ddechrau'r rhaglen. Bydd cyfle hefyd i rieni a gwarcheidwaid ymweld â'r ganolfan yn ystod y tymor.
Trefniadau Canolfan Drochi Iaith y tu allan i Sir Gaerfyrddin
Gall fod yn bosibl i newydd-ddyfodiaid sy'n mynychu ysgolion sydd wedi'u lleoli'n agos at ffiniau awdurdodau lleol eraill gael mynediad at ganolfannau trochi yng Ngheredigion neu Sir Benfro, drwy drefniant cydweithredol traws-sirol, yn amodol ar gytundebau a threfniadau lleol.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi a’ch plentyn!
Mae'r rhaglen drochi yn darparu sylfaen gadarn yn y Gymraeg, gan gefnogi dysgwyr i ddatblygu eu medrau iaith yn gyflym ac integreiddio'n llwyddiannus i'w hysgol newydd.
Am fwy o fanylion, trafodwch ag ysgol eich plentyn neu cysylltwch â Sir Gâr Ddwyieithog heddiw: csca@sirgar.gov.uk
Follow our Instagram profile: @sirgarddwyieithog
Ffordd o ddysgu iaith ychwanegol yw addysg drochi. Yr iaith darged newydd yw cyfrwng addysg y dosbarth. Y nod yw datblygu safon uchel o gymhwysedd yn yr iaith o fewn amser cyfyngedig.Mae’n ddull sy’n hanesyddol lwyddiannus o gyflwyno iaith I’r blynyddoedd cynnar ac mewn cylchoedd Meithrin ar draws Cymru. Yn ogystal, mae wedi bod yn ddull effeithiol o ddysgu iaith mewn Canolfannau Trochi Iaith ers yr 1980au.
Mae ymchwil yn dangos bod disgyblion sy’n profi addysg drochi yn;
Rhagori yn academaidd
Yn dysgu trydydd a phedwaredd iaith yn haws
Deall a chofleidio diwylliannau eraill
Meddu ar well ymwybyddiaeth o hunaniaeth, diwylliant a theimlad o gymdeithas
Magu mwy o hunan barch
Datblygu gwell sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol.
O fewn Cynllun Gwaith tynn a datblygiadol mae’r athrawon yn sicrhau bod dysgu Cymraeg yn llawn sbri. Cyflwynir y Gymraeg ar draws y Meysydd Dysgu a phrofiad trwy gyfrwng amrywiaeth eang o brofiadau, ymweliadau, gweithgareddau strwythuredig a gemau hwyliog.
Mi fydd yr athrawon yn:
- cyflwyno gwersi bywiog ar draws y Meusydd Dysgu a phrofiad gan roi sylw i batrymau iaith penodol
- yn gosod ffocws ar siarad a gwrando,
- dysgu geirfa drwy gemau, caneuon a rhigymau.
- cyflwyno gweithgareddau chwarae rôl a drama er mwyn ymarfer sgyrsiau bob dydd,
- cynnal gweithgareddau creadigol
- cynnal gweithgareddau corfforol a chymdeithasol,
- chwarae gemau tu fewn a thu allan I’r dosbarth
- coginio a chynnal arbrofion gwyddonol
yn ogystal â dathlu diwylliant a diwrnodau Cymreig yn dymhorol.
Ar hyn o bryd mae’r disgyblion yn mynychu am 4 diwrnod yr wythnos am 10 wythnos.
Bydd y disgyblion yn mynychu'r Ganolfan Iaith am gyfnod dysgu dwys- am 4 diwrnod yr wythnos am ddeg wythnos. Cynigir lle i ddisgyblion 6-11 oed.
Bydd cyfnod o ôl ofalaeth yn dilyn. Er enghraifft
- ymweliadau ysgol,
- cyrsiau ychwanegol yn y Ganolfan
Dim mwy nag 16
Addysgir y disgyblion gan athrawon profiadol sy'n arbenigwyr yn y maes dysgu iaith. Bydd yr athrawon yn ymweld â'r ysgolion a'r disgyblion newydd cyn iddynt ddechrau yn y Ganolfan Iaith. Cyflwynir gweithgareddau hwylus ac amrywiol mewn awyrgylch gartrefol a gofalgar. Bydd cynorthwyydd dosbarth yn cefnogi ymhob Canolfan.
Trefnir cludiant i'r Ganolfan Iaith yn rhad ac am ddim mewn tacsi a drefnir gan y Sir. Bydd pob plentyn yn cael eu casglu o'r ysgol gynradd yn y bore gan ddychwelyd yn ôl i'r ysgol gynradd yn y prynhawn. Os dymunir, gall rhiant neu warchodwr gludo ei plentyn. Bydd cyllid ar gael i gefnogi hyn.
Bydd cinio ysgol ar gael am ddim i bob plentyn yn ffreutur yr Ysgol Uwchradd.











