Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob awdurdod lleol yng Nghymru fod â Chynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Daeth rheoliadau newydd i rym y llynedd i gefnogi nod hirdymor Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae'r system addysg yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r weledigaeth hon ac mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyfrannu drwy greu eu cynlluniau gweithredu eu hunain ar gyfer darpariaeth addysg Cymraeg yn awr ac yn y dyfodol.
Yn y Cwricwlwm newydd i Gymru, sy'n dechrau ym mis Medi 2022 ar gyfer ysgolion cynradd ac o 2023 ar gyfer ysgolion uwchradd, mae dod yn ddwyieithog ac yn amlieithog yn nodwedd allweddol y maes dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.
Daeth y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i rym ym mis Ebrill 2021 a bydd dysgu Cymraeg yn orfodol o 3 oed a Saesneg o 7 oed. Mae'n golygu y gall ysgolion cyfrwng Saesneg cyfredol ddysgu Saesneg o 3 oed o hyd, ond erbyn hyn mae ganddynt y ddyletswydd a'r cyfle i gyflwyno'r Gymraeg o 3 oed hefyd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru weithio tuag at gyflawni saith amcan llesiant, gan gynnwys 'Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu'. Mae gennym ddyletswydd i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac i weithio tuag at gyflawni'r amcanion llesiant.