Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Pwrpas Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSyGA) Sir Gaerfyrddin yw amlinellu sut y byddwn yn bwriadu cyflawni nodau a thargedau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg (y ‘Strategaeth’).

Mae’r Strategaeth yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system addysg sy’n ymateb mewn ffordd wedi’i chynllunio i’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Y nod yw peri cynnydd yn nifer y bobl o bob oedran a chefndir sy’n rhugl yn y Gymraeg ac sy’n gallu defnyddio’r iaith gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau ac yn y gweithle. Ein CSyGA fydd y prif offeryn ar gyfer creu system cynllunio well ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd y CSyGA yn fodd i Lywodraeth Cymru allu monitro’r ffordd y byddwn yn ymateb i a chyfrannu at weithredu nodau’r Strategaeth.

Darllenwch y Cynllun

Lawrlwythiadau

Cyngor a Democratiaeth