Ar gyfer rhieni
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/08/2024
Fel rhiant, mae'n gallu bod yn anodd gwybod pryd i anfon eich plentyn i'r ysgol os yw'n teimlo'n sâl neu'n bryderus iawn, ond mae dod o hyd i atebion yn ymdrech tîm rhwng ysgolion, rhieni a phlant, ac mae cefnogaeth a gwybodaeth ar gael i'ch helpu i wneud y penderfyniad gorau i'ch plentyn.
Mae gan rieni rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu eu plant i ddatblygu patrymau presenoldeb iach.
- Gosod trefn foreol ac amser gwely.
- Trefnu apwyntiadau meddygol a deintyddol ar ôl ysgol neu yn ystod y gwyliau.
- Osgoi mynd ar wyliau yn ystod y tymor.
- Anfon eich plentyn i'r ysgol bob dydd oni bai ei fod yn sâl.
- Gwneud yn siŵr eich bod yn brydlon.
Os yw eich plentyn yn cael trafferth mynychu'r ysgol, cysylltwch â'ch ysgol; mae'r staff yno i gefnogi pob disgybl. Gall eich plentyn hefyd ofyn am gymorth gan oedolyn dibynadwy yn ei ysgol.
Beth mae presenoldeb da yn ei olygu?
Gall fod yn anodd ei ddeall ond mae'r tabl hwn yn dangos sut mae presenoldeb isel yn effeithio ar ddysgu eich plentyn.
Presonoldeb o 100% Presonoldeb o 95% |
Colli 0 diwrnod 9 diwrnod o absenoldeb neu golli 1 wythnos a 4 diwrnod o ddysgu |
Rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i'ch plentyn |
Presonoldeb o 90% | 19 diwrnod o absenoldeb neu golli 3 wythnos a 4 diwrnod o ddysgu | Bydd yn ei gwneud hi'n anoddach dysgu a datblygu hyd at allu llawn eich plentyn |
Presonoldeb o 85% | 29 diwrnod o absenoldeb neu golli 5 wythnos a 4 diwrnod o ddysgu Colli bron i hanner tymor |
Bydd yn effeithio ar gynnydd eich plentyn |
Presonoldeb o 80% Presonoldeb o 75% |
38 diwrnod o absenoldeb neu golli 7 wythnos a 3 diwrnod o ddysgu 48 diwrnod o absenoldeb neu golli 9 wythnos a 6 diwrnod o ddysgu |
Bydd yn effeithio'n ddifrifol ar ddysgu a datblygiad eich plentyn |
Os oes gan eich plentyn bresenoldeb o 90%, bydd yn colli'r hyn sy'n cyfateb i:
- ½ diwrnod yr wythnos
- 19 diwrnod y flwyddyn
- 247 diwrnod dros y 13 blynedd o addysg statudol neu 1 flwyddyn a 10 wythnos
Mae pobl ifanc sy'n colli'r ysgol yn rheolaidd yn fwy tebygol o dangyflawni mewn arholiadau, cael eu hynysu oddi wrth eu ffrindiau a chymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.