Cyflwyniad i Gerddoriaeth Ddigidol gyda Soundtrap
Diweddarwyd y dudalen ar: 20/12/2024
Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin yn darparu Cymorth Offerynnol a Chwricwlwm i ysgolion a dysgwyr ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd ein Cyflwyniad i Greu Cerddoriaeth Ddigidol yn rhoi golwg fanwl ar y fersiwn ddiweddaraf o Soundtrap, sef Gweithfan Sain Ddigidol ar-lein (DAW).
Nawr rydym yn cynnig cyfle i ddysgwyr sy'n oedolion ddysgu sgiliau newydd cyffrous hefyd. Dros gwrs chwe wythnos dangosir i ddysgwyr sut i greu a golygu cynnwys trwy'r platfform ar-lein hwn. Addysgir amrywiaeth eang o sgiliau gan gynnwys mewnforio ffeiliau sain, golygu / trin dolenni sain, allforio ffeiliau sain yn ogystal â chael cipolwg ar greu cerddoriaeth wreiddiol.
Nid oes angen unrhyw galedwedd arbenigol i gymryd rhan yn y cwrs hwn.
Dyddiadau ac amseroedd i'w cadarnhau
Venue | Day / Time | Weeks |
---|---|---|
Canolfan Ddysgu Llaneli |
i'w gad |
6
|
Sut i gofrestru?
Ffoniwch 01267 235413, e-bostiwch neu llenwch ein Ffurflen ymholiad i gofrestru eich diddordeb, cofrestru neu wneud ymholiadau pellach. Ar ddyddiad dechrau eich cwrs, byddwch yn cwblhau ffurflen gofrestru ac yn talu. Dewch hefyd â chopi o'ch cerdyn adnabod â llun (pasbort neu drwydded yrru).
Ein nod yw darparu pob cwrs a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl.