TGAU Mathemateg i Oedolion
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/11/2024
Bydd angen mynychu sesiynau wythnosol dwy i dair awr o hyd gyda thiwtor ac astudio yn ystod eich amser eich hun yn unol â chyfarwyddyd eich tiwtor. Gallwch wneud y cwrs hwn dros flwyddyn neu 2 flynedd, yn dibynnu ar eich anghenion personol.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu drwy asesiad ffurfiannol parhaus gan diwtor a thrwy hunanfyfyrio. Byddwch hefyd yn sefyll dau bapur arholiad TGAU terfynol.
Mae hwn yn gwrs lefel ganolradd. Bydd angen ichi gwblhau asesiad cychwynnol gyda ni er mwyn sicrhau bod y cwrs hwn yn addas ar eich cyfer - mae cymorth a chyngor yn rhan o'r broses. Yn ogystal mae angen ichi fod yn gallu mynychu'r sesiynau yn gyson a hefyd gwneud y gwaith angenrheidiol gartref - mae hwn yn gwrs cywasgedig iawn sy'n gofyn am ymrwymiad - yn enwedig y cwrs blwyddyn o hyd.
Bydd angen i chi brynu set Mathemateg TGAU (cwmpawd, cyfrifiannell wyddonol, protractor ac ati) a llyfr dysgwr CBAC.
Mae'r cwrs yn costio £60 ar gyfer TGAU Mathemateg – Rhifedd CBAC (dau bapur arholiad) a £30 ychwanegol os ydych am sefyll TGAU Mathemateg CBAC fel un ychwanegol (dau bapur arholiad), neu i'r gwrthwyneb.
Mae dwy fersiwn o'r papur hwn bellach ar gael:
- TGAU Mathemateg - Rhifedd (CBAC)
- TGAU Mathemateg (CBAC)
Ewch i wefan CBAC i gael rhagor o wybodaeth am hyn.
Lleoliad | Diwrnod / Amser | Wythnosau |
---|---|---|
Canolfan Ddysgu Rhydaman @ Streets |
Dydd Iau, 12.00 - 15.00 Nos Fercher ar-lein, 17.00 - 20.00 (E-bost i drafod eich opsiynau.) (Yn amodol ar gyfweliad cychwynnol ac asesiad) |
31 wythnos - blwyddyn 70 wythnos - 2 flynedd yn dilyn tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau |
Canolfan Ddysgu Caerfyrddin |
Dydd Iau, 09.00 - 12.00 Dydd Iau, 16.00 - 18.00, ynghyda ag ar-lein (E-bost i drafod eich opsiynau.) (Yn amodol ar gyfweliad cychwynnol ac asesiad.) |
31 wythnos - blwyddyn 70 wythnos - 2 flynedd (tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau) |
Canolfan Ddysgu Llanelli |
Dydd Mawrth, 17.00 - 20.00 (E-bost i drafod eich opsiynau.) (Yn amodol ar gyfweliad cychwynnol ac asesiad.) |
31 wythnos - blwyddyn 70 wythnos - 2 flynedd (tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau) |
Ein nod yw darparu pob cwrs a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl. Ar ôl cofrestru, fel rheol ni roddir ad-daliad i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn parhau â'u hastudiaethau. Caiff ad-daliadau eu rhoi fel y gwelwn orau; bydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi 'pro rata' a hynny'n ôl nifer y sesiynau a fynychwyd.
Dyddiadau Tymor 2024/25 | Dechrau | Hanner Tymor | Diwedd |
---|---|---|---|
Hydref 2024 | 02 Medi | 28 Hydref - 01 Tachwedd | 22 Rhagfyr |
Gwanwyn 2025 | 06 Ionawr | 24 Chwefror - 28 Chwefror | 11 Ebrill |
Haf 2025 | 28 Ebrill | 26 Mai - 30 Mai | 21 Gorffennaf |
Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi’r llywodraeth. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgil gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o’r fath.
Darperir y cwrs hwn mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr.