Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
Rheolir y drefn o dderbyn plant i ysgolion gan awdurdod derbyn.
Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Gaerfyrddin
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Derbyn ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir yn Sir Gaerfyrddin.
Mae manylion cyswllt Cyngor Sir Caerfyrddin fel a ganlyn:
Yr Adran Addysg a Phlant
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP
Ffôn: 01267 246449
E-bost: derbyniadau@sirgar.gov.uk
Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn Sir Gaerfyrddin
Mae ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir/ysgolion ffydd yn cynnal eu prosesau derbyn eu hunain.
O flwyddyn academaidd 2026/27 ymlaen, bydd trefniant derbyn cydlynol yn cael ei roi ar waith ar gyfer pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin. Bydd pob cais ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn cael ei wneud drwy system ymgeisio ar-lein y Cyngor, ynghyd ag ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir. Bydd y meini prawf derbyn yn cael eu pennu a'u gosod gan bob ysgol wirfoddol a gynorthwyir unigol. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi cymorth o ran y broses ymgeisio ac yn cyhoeddi unrhyw benderfyniad a wneir gan yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir unigol i rieni. Yr ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir unigol fydd yn parhau i gynnal y broses apelio.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch ysgolion eglwysig gwirfoddol a gynorthwyir cysylltwch â'r canlynol:
Ysgolion yr Eglwys yng Nghymru - Y Parchedig Ganon John Cecil, Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, Y Ficerdy, Steynton, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 1AW
Ffôn: 01646 692974 neu 07582 613940
E-bost: JohnCecil@cinw.org.uk
Ysgolion Catholig - Mr Paul White, Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, Swyddfa Addysg yr Esgobaeth, y Swyddfeydd, 27 Stryd y Cwfaint, Greenhill, Abertawe, SA1 2BX
Ffôn: 01792 652757 Ffacs: 01792 458641
E-bost: education@menevia.org.uk
Awdurdodau Addysg Lleol cyfagos
Y canlynol yw enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn yr awdurdodau addysg lleol cyfagos:
ABERTAWE - Cyfarwyddwr Addysg, Dinas a Sir Abertawe, Neuadd y Ddinas, Abertawe, SA1 4PE
Ffôn: 01792 637521
CEREDIGION – Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a Phrif Swyddog Addysg, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE
Ffôn: 01970 633656
CASTELL-NEDD PORT TALBOT - Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Port Talbot SA13 1PJ
Ffôn: 01639 686868
POWYS - Cyfarwyddwr Addysg a Phlant, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir Powys, Spa Road East, Llandrindod, LD1 5LG.
Ffôn: 01597 826422
SIR BENFRO - Cyfarwyddwr Addysg, Cyngor Sir Penfro, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP
Ffôn: 01437 764551
Trefniadau Derbyn Arferol ar gyfer y Flwyddyn Academaidd 2026-2027
Yn y rhan hon o'r ddogfen mae'r gweithdrefnau'n cael eu hegluro o ran trefniadau derbyn arferol addysg Feithrin, Gynradd, Uwchradd a chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026-2027.
Crynodeb Allweddol - Ar gyfer pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin, mae'n rhaid, yn ôl y gyfraith, i Rieni/Gwarcheidwaid gyflwyno cais i'r Awdurdod am le mewn ysgol.
- Nodir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais ar ddiwedd y ddogfen hon.
- Rhaid gwneud cais erbyn y dyddiadau cau.
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol gynradd o'r ysgol feithrin.
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol uwchradd o'r ysgol gynradd.
- Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau yn annhebygol o gael lle yn eu hysgol dewis cyntaf.
- Defnyddir Meini Prawf Gor-alw penodol wrth roi lle mewn ysgol.
- Nid yw'r ysgol feithrin na'r ysgol gynradd y mae disgybl yn ei mynychu yn cael ei hystyried wrth roi lleoedd. Cyfeiriad cartref yw'r prif ffactor yn y broses ymgeisio ar gyfer ysgolion.
- Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn nac ysgol roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Rhaid diystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.
- Bydd yr Awdurdod yn anfon e-bost yn rhoi gwybod a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus neu wedi'i wrthod.
- Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol hyd nes bod y rhiant/gwarcheidwad wedi cadarnhau gyda’r Awdurdod ei fod yn derbyn y lle sy'n cael ei gynnig.